MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,850 - £36,094 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Iechyd a Diogelwch

Coleg Sir Gar

Cyflog: £33,850 - £36,094 / blwyddyn

Swyddog Iechyd a Diogelwch
Application Deadline: 15 July 2024

Department: Ystadau

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Graig

Reporting To: Rheolwr Iechyd a Diogelwch

Compensation: £33,850 - £36,094 / blwyddyn

DescriptionPleser o'r mwyaf gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yw cyflwyno cyfle cyffrous i Swyddog Iechyd a Diogelwch brwdfrydig ymuno â'n tîm clodfawr sy'n ymroddedig i sicrhau iechyd a diogelwch ein staff a myfyrwyr, ar sail barhaol.

Mae'r rôl yn tanlinellu ein hymrwymiad i gynnal y safonau iechyd a diogelwch uchaf ar draws y coleg. Gan adrodd wrth y Rheolwr Iechyd a Diogelwch, byddwch yn gweithio'n agos gyda staff, myfyrwyr, a budd-ddeiliaid allanol i hyrwyddo diwylliant o ddiogelwch, darparu arweiniad, hyfforddiant, a chefnogaeth i sicrhau cydymffurfiad â gofynion rheoliadol ac arferion gorau.

Fel Swyddog Iechyd a Diogelwch, byddwch yn chwarae rôl ganolog wrth gynorthwyo gyda gweithredu a chynnal protocolau iechyd a diogelwch cadarn ar draws y campysau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i arwain mentrau sy'n anelu at wella protocolau diogelwch, cyfrannu at ymgorffori diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol, a meithrin ymagwedd ragweithiol tuag at reoli risg.

Ynglŷn â'r RôlFel Swyddog Iechyd a Diogelwch, prif bwrpas y rôl fydd:
  • Datblygu, adolygu, a diweddaru polisïau iechyd a diogelwch, gweithdrefnau, a chanllawiau wedi'u teilwra i anghenion penodol a risgiau sefydliad addysg;
  • Sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, rheoliadau, a safonau;
  • Cefnogi staff trwy ddarparu cyngor ac arweiniad ar holl faterion iechyd a diogelwch;
  • Cydlynu sesiynau hyfforddi iechyd a diogelwch rheolaidd ar gyfer staff yn ogystal â chyflwyno rhai sesiynau hyfforddi;
  • Ymgymryd ag archwiliadau adrannau i sicrhau cydymffurfiad.

Beth fydd ei angen arnochI fod yn llwyddiannus yn y rôl, byddwch chi angen :
  • Gradd, NEBOSH neu Gymhwyster cyfwerth
  • Dealltwriaeth drylwyr o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, rheoliadau, a chanllawiau sy'n berthnasol i sefydliadau addysgol
  • Hyder i gyflwyno hyfforddiant iechyd a diogelwch perthnasol i staff
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i greu amgylchedd dysgu a gweithio saff a diogel lle bydd pawb yn gallu ffynnu. Os ydych yn barod i wynebu'r her werth chweil hon a chael effaith ystyrlon, rydyn ni'n eich annog i wneud cais ar gyfer rôl Swyddog Iechyd a Diogelwch yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.

I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs/cyfarfod anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.

Buddion
  • Byddwch yn cael 37 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 50 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein