MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Rheolwr Cyflogaeth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.

Lleoliad gwaith: Coed Pella

Ydych chi'n chwilio am eich rôl arweinyddiaeth nesaf ac oes gennych chi brofiad o weithio yn y sector cyflogadwyedd?

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn darparu rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru gan ddarparu cefnogaeth cyflogadwyedd i bobl ddi-waith sy'n byw yn sir Conwy sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.

Rydym yn dymuno recriwtio Rheolwr Cyflogaeth fydd yn rhoi cefnogaeth reoli i dîm o 9 Mentor Cyflogaeth, gan sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.

Bydd eich cyfrifoldebau allweddol fel Rheolwr Cyflogaeth yn cynnwys:
• Rheoli staff rheng flaen
• Rheoli gweithrediad y gwasanaeth o ddydd i ddydd
• Rhoi cefnogaeth i'r tîm Ymgysylltu
• Gweithio fel rhan o dîm rheoli bychan
• Meithrin perthnasoedd â phartneriaid a budd-ddeiliaid
• Sefydlu a rheoli perfformiad staff.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Libby Duo, Rheolwr Strategol Sgiliau a Chyflogadwyedd (01492 575509/ Libby.duo@conwy.gov.uk)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.