MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 4 | £26,403 - 27,694 PRO RATA
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Maendy

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 4 | £26,403 - 27,694 PRO RATA

Mae Ysgol Gynradd Maendy am benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 llawn cymhelliant ac ysbrydoledig. Mae angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg a bod barod i weithio yng Ngham 1 a 2. Lleolir y swydd yn bennaf ym Mlynyddoedd 1 a 2. Dylai'r ymgeisydd fod yn ddibynadwy, yn wydn ac yn hyblyg a'r gallu i weithio'n dda yn rhan o dîm.

Mae Ysgol Gynradd Maendy wrth galon y gymuned. Mae gan yr ysgol Ganolfan Adnoddau ADY, darpariaeth ar gyfer Anawsterau Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol ac addysg Feithrin lawn-amser. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag Ysgol Gynradd Maendy ar adeg gyffrous iawn gan ein bod wedi symud i adeilad newydd yr ysgol yn ddiweddar. Mae'r datblygiad newydd hwn wedi rhoi cyfle i ni ehangu o fynediad un dosbarth i ddau ddosbarth ac mae disgwyl i niferoedd ein disgyblion godi yn unol â hynny.

Dylai pob ymgeisydd feddu ar:-
  • Brofiad o blant, yn cynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol;
  • Y gallu i gefnogi lles / datblygiad emosiynol disgybl;">Y gallu i ddilyn cyfarwyddyd a bod ag awydd i hyrwyddo eu datblygiad proffesiynol;">Brwdfrydedd ac ymagwedd gydwybodol;">Y gallu i gofleidio newid a chyfrannu at ddatblygiad yr ysgol

Yn gyfnewid bydd yr ysgol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant parhaus, datblygiad proffesiynol, a chefnogaeth tîm croesawgar a fydd yn eich meithrin. Dyddiad Cau: Dydd Sul 9 Tachwedd

Rhestr Fer: Dydd Mawrth 11 Tachwedd

Cyfweliad/ Arsylwi Gwers: Dydd Iau 13 Tachwedd a dydd Gwener 14Tachwedd Mae disgrifiad swydd, manyleb person a ffurflen gais ynghlwm. Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllawiau i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch ag Emma Payne, Pennaeth ar 01495 742780 neu e-bostiwch emma.payne@torfaen.gov.uk .

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ar gyfer y swydd hon mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.