MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cogydd Cynorthwyol - YGG Calon Y Cymoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cogydd Cynorthwyol - YGG Calon Y Cymoedd
Disgrifiad swydd
12.5 awr yr wythnos

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod fel Cogydd

Cynorthwyol.Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus

gynorthwyo'r cogydd wrth baratoi 30-90 o brydau bwyd y dydd.

Byddwch yn cynorthwyo wrth hyfforddi a threfnu staff a byddai gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddu cegin yn fantais.

Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion yn y fwrdeistref sirol os oes angen. 

Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon. Darperir hyfforddiant os bydd angen.

Trefnir oriau gwaith rhwng 9am a 2.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau: 17 April 2024

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr