MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Gynradd Gymunedol Crughywel)

Cyngor Sir Powys
Dirprwy Bennaeth (Ysgol Gynradd Gymunedol Crughywel)
Swydd-ddisgrifiad
Yn ofynnol ar gyfer Medi 2024 (dechrau tymor yr Hydref), yn amodol ar gwblhau gwiriadau cyn cyflogi a diogelu.

Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae'r corff llywodraethu yn edrych i benodi gweithiwr proffesiynol sy'n ysgogol, profiadol, brwdfrydig, a rhagorol i weithio ochr yn ochr gyda'r Pennaeth wrth gymryd rôl arweiniol yn y rheolaeth a datblygiad o'n ysgol.

Bydd rhaid i'n Dirprwy Bennaeth newydd rannu ein hymrwymiad i ddisgwyliadau uchel a chynorthwyo ein tim deinamig i yrru'r ysgol yn ei blaen.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • Arddangos a hyrwyddo y gwerthoedd a threfniadau Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yng Nghymru.
  • Ymarferydd dosbarth rhagorol gyda disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad, a bod ag angerdd i sicrhau bod pob plentyn yn llwyddo.
  • Arweinydd arloesol sydd â'r gallu i ymgysylltu â diwygio'r cwricwlwm i ddylunio cwricwlwm i ddiwallu anghenion pob dysgwr.
  • Cael hanes profedig o arwain mentrau i godi cyrhaeddiad.
  • Mynd ati i hyrwyddo lles, llesiant a diogelu pob plentyn.
  • Dangos ymrwymiad personol i ddysgwyr gydol oes a datblygiad proffesiynol.
  • Dangos arbenigedd wrth ddefnyddio ac arwain TGCh ar draws y cwricwlwm.
  • Cydweithio gyda thîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun i wiriad manwl DBS gan Gyngor Sir Powys a bydd angen dau eirda cyn iddyn nhw ddechrau yn y swydd.

Gofynnir i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ysgol gysylltu â swyddfa'r ysgol.

Dyddiad cau: 8 o Ebrill 2024

Dyddiad llunio rhestr fer: 9 o Ebrill 2024

Dyddiad y cyfweliad: yr wythnos yn dechrau 17 o Ebrill 2024