MANYLION
  • Lleoliad: Conwy,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro\/Athrawes

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.

Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Conwy

Mae Canolfan Addysg Conwy yn edrych am athro / athrawes rhagorol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio a gwneud gwahnaiaeth gyda rhai o ddisgyblion mwyaf bregus Conwy. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion meddygol a/neu anawsterau ymddygiad sylweddol a anghenion dysgu penodol. Bydd athrawon ANG yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro/athrawes sydd â dychymyg a brwdfrydedd i weithio mewn amgylchedd holistig ac yn aml yn heriol gyda sgiliau rheoli dosbarth da. Mae profiad AAA ac ADY yn amlwg yn fanteisiol, ond mae Gwasanaeth Ymgynnwys Cymdeithasol Conwy yn awyddus i benodi unigolyn y gall pobl ifanc fuddsoddi eu dysgu ac ymddiriedaeth.

Cysylltwch â Mr Gwyn Owen am drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am Ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:

Gwyn Owen, Pennaeth (01492 514925 / Owena424@hwbcymru.net)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.