MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Gwaith Ieuenctid
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Ebrill, 2024 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Datblygu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (cyfnod penodol - lleiafswm 12 mis)

Cyngor y Gweithlu Addysg
Diben y Swydd:

Ym mis Ebrill 2024, cymerodd CGA gyfrifoldeb am ddatblygu a chyflwyno’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda’r Prif Weithredwr i ymgymryd â darparu gwasanaeth y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid.

Cyfrifoldebau:

O dan gyfarwyddyd y Prif Weithredwr, bydd y Swyddog Datblygu Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid:

• Yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth proffesiynol i sefydliadau sy’n ystyried ymgeisio am y Marc Ansawdd, a’r tîm o aseswyr
• Yn rhag-werthuso ystod o dystiolaeth a gyflwynwyd gan sefydliadau sy’n ymgeisio am y Marc Ansawdd yn erbyn meini prawf penodedig, a chynghori’r aseswyr yn unol â hynny
• Yn datblygu cynlluniau ar gyfer ymweliadau asesu ac yn gwneud yr holl drefniadau ar gyfer cyfarfodydd
• Yn mynychu ymweliadau asesu’r Marc Ansawdd ledled Cymru
• Yn cynhyrchu adroddiadau yn dilyn ymweliadau asesu, gan grynhoi deilliannau a gwneud argymhellion i’r Corff Dyfarnu (CGA)
• Yn sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y Corff Dyfarnu (CGA) a’r sefydliad sy’n ymgeisio am y Marc Ansawdd
• Yn cyfranogi yn y broses apeliadau asesu, lle bo’n briodol
• Yn ymgymryd â rôl arweiniol mewn hyfforddiant ar gyfer aseswyr, a recriwtio aseswyr newydd
• Yn hyrwyddo’r Marc Ansawdd ar draws y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru trwy gyflwyniadau a chynrychiolaeth mewn cyfarfodydd allanol
• Yn datblygu ac yn cynnal presenoldeb ar-lein ar gyfer gwasanaeth y Marc Ansawdd trwy wefan CGA
• Yn ymgymryd â gwaith ymchwil, fel bo’r gofyn, mewn perthynas â phrosesau marc ansawdd a chyrff rheoleiddio eraill
• Yn ymgymryd â rôl arweiniol yn yr adolygiad datblygiadol o’r Marc Ansawdd presennol gyda’r Grŵp Llywio Marc Ansawdd, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i adolygu a datblygu ymhellach y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
• Cysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys y Grŵp Llywio Marc Ansawdd, Llywodraeth Cymru, Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid, TAG ac Estyn
• Cyfrannu at, a drafftio, papurau, adroddiadau a diweddariadau rheolwyr misol, chwarterol a blynyddol ar y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ar gyfer Cyngor a Phwyllgorau CGA, y Bwrdd Marc Ansawdd a Llywodraeth Cymru
• Sicrhau cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol yn cynnwys y Gymraeg, Cydraddoldeb a’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddyd gan y Rheolwr Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon neu Uwch Dîm Rheoli yn gymesur â’r swydd a’r raddfa
• Rhoi cefnogaeth weinyddol i Lywodraeth Cymru i ddilysu’r dyfarniad i ddeiliaid newydd a phresennol y Marc Ansawdd
• Rhoi cefnogaeth cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer rhoi’r Marc Ansawdd ledled Cymru