MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Rhiw Bechan)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Rhiw Bechan)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Cynorthwyydd Dysgu Llawn Amser

Yn eisiau: ar gyfer Ebrill 22 ain 2024

(dyddiad cychwyn agored i drafodaeth)

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu brwdfrydig, cynnes ac ymroddedig i weithio yn ein hysgol gynhwysol a chyfeillgar am 27.5 awr yr wythnos - Dydd Llun i Ddydd Gwener. Bydd y swydd yn dechrau ddydd Llun 22ain Ebrill 2024 ond gellir trafod y dyddiad cychwyn yn dibynnu ar amgylchiadau personol.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio 1:1 gyda phlant unigol, gweithio gyda grwpiau bach a chefnogi'r athro dosbarth yn gyffredinol. Dylent feddu ar sgiliau cyfathrebu da, gydag awydd i ddysgu a chymhwyso sgiliau newydd. Dylent fod yn hyblyg, drugarog ac yn amyneddgar.

MAE SIARADWR CYMRAEG RHUGL YN HANFODOL ar gyfer y swydd hon.

Byddai profiad o weithio gyda phlant ag ASD ac anghenion ymddygiadol eraill yn fanteisiol.

Mae disgrifiad swydd lawn ynghlwm.

Mae'r swydd yma yn cael ei hysbysebu ar Swyddi Gwag - Cyngor Sir Powys a gellir gwneud cais ar-lein neu drwy ffurflen gais o'r ysgol.

Dyddiad cau : Ebrill 7fed 2024 am 9 o'r gloch yr hwyr

Dewis rhestr fer: Ebrill 8fed 2024

Cyfweliadau: Ebrill 16eg 2024

Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r ysgol i drefnu ymweliad.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.