MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Llan-y-pwll

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Llan-y-pwll

Ffordd Parc Borras

Rhif Ffôn: 01978 594101

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Carrie Harper

Carrie1.Harper@wrexham.gov.uk

Cyfanswm ar y Gofrestr: 22

PENNAETH

I ddechrau Mis Medi 2024

Arweinyddiaeth L12 - L18

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn gwahodd penaethiaid neu ymarferwyr profiadol sy'n meddu ar gymhwyster CPCP i wneud cais ar gyfer swydd pennaeth.

Ni yw ysgol Gymraeg fwyaf newydd Wrecsam sy'n cynnig adeilad ysgol gynradd wedi'i adnewyddu o'r newydd ac amgylchedd dysgu ysgogol a deniadol. Ar ôl agor i ddisgyblion Meithrin a Derbyn ym mis Medi 2022, mae'r ysgol ar hyn o bryd yn tyfu gyda 22 o blant ar y gofrestr, a disgwylir iddi dyfu i 44 ym mis Medi 2024.

Mae gennym ddisgyblion uchel eu cymhelliant, staff ymroddedig, rhieni cefnogol a chorff llywodraethu ymroddedig a gweithgar

Lleolir yr ysgol yn ardal Borras/Rhosnesi o'r fwrdeistref ond mae'n gwasanaethu dalgylch ehangach o ran y galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi pennaeth brwdfrydig a gweledigaethol gyda sgiliau arwain rhagorol ac ymrwymiad ac awch i gynnal safonau a lefelau cyrhaeddiad uchel.

Mae'n ofynnol bod ymgeiswyr:

• dangos arweinyddiaeth gref a deinamig gyda gweledigaeth glir ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref

• modelu ac ysbrydoli arfer ardderchog yn yr ystafell ddosbarth a chynnal angerdd cryf dros addysgu a dysgu

• ysgogi ac ysbrydoli'r holl ddisgyblion a staff

• meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'r holl randdeiliaid

• datblygu potensial llawn pob plentyn ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol

• dangos ymrwymiad cryf i hyrwyddo lles, llais y disgybl ac addysg cyfrwng Cymraeg

• cynnal a chryfhau'r cysylltiadau ar draws ein clwstwr, gan hyrwyddo arfer gorau

• creu amgylchedd sy'n sicrhau dysgu effeithiol i'r holl ddisgyblion ac yn hyrwyddo safonau cyflawniad uchel.

Croesawir ymweliadau â'r ysgol cyn ymgeisio. I gael mwy o wybodaeth ac i wneud apwyntiad ar gyfer ymweliad cysylltwch â Carrie Harper ar carrie1.Harper@wrexham.gov.uk

Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried arfer ei hawl i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

I ymgeisio: lawrlwythwch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y dudalen we www.wrexham.gov.uk/jobs

DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI'I LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT GADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR ar e-bost

Carrie1.Harper@wrexham.gov.uk

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Noder bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

DYDDIAD CAU: 12:04:24

PROSES GYFWELD YN CYCHWYN

Yr wythnos yn cychwyn 22:04:24