MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Ebrill, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL ARDUDWY, HARLECH
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 332 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted â phosib
Rheolwr Busnes a Chyllid
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
(42 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol, sef 38 wythnos tymor ysgol, 2 wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).
Mae Corff Llywodraethu'r ysgol yn awyddus i benodi gweinyddwr effeithiol a medrus ar gyfer y swydd hanfodol hon. Bydd angen dealltwriaeth gadarn o brosesau cyllidol a gweinyddol, ynghyd â'r gallu i gydweithio a chyfathrebu'n hyderus gyda holl gymuned yr ysgol.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S4 pwyntiau 26-28 (sef £32,876 - £34,588 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster. Gwyliau i'w cymryd yn ystod y gwyliau ysgol.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith, a bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Aled Williams ar 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan
Mr Aled Williams, Ysgol Ardudwy, Ffordd y Traeth, Harlech, Gwynedd, LL46 2UH.
Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: Hanner Dydd, Dydd Mawrth, 9 Ebrill, 2024
Bwriedir cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos honno
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn. Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.
Manylion Person
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
Hanfodol
Y gallu i:
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
Hanfodol
Dymunol
PROFIAD PERTHNASOL
Hanfodol
Dymunol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
Hanfodol
Dymunol
Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal a'i gilydd.
Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeiliad y swydd yn y ffurflen gais. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Swydd Ddisgrifiad
Teitl y Swydd: Rheolwr Busnes a Chyllid
Gwasanaeth: Ysgolion
Maes Gwasanaeth: Ysgol Ardudwy
Yn gyfrifol i: Pennaeth Ysgol Ardudwy
Oriau Gweithio: 37 awr yr wythnos.
(42 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 2 wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol.
Gwyliau i'w cymryd yn ystod gwyliau ysgol
Graddfa: S4 pwyntiau 26-28
Pwrpas y Swydd
Prif Gyfrifoldebau
Rheoli Cyllid
Corff Llywodraethu
Goruchwylio a Rheoli Pobl ac Adnoddau Dynol
Arholiadau a Chymwysterau - Swyddog Arholiadau
Systemau Rheolaethol
Adeiladau a Thiroedd / Defnydd o'r Adeiladu a Thiroedd gan y Cyhoedd
Amodau Cyffredinol a Gwaith Arbennig
Gweledigaeth / Cyd-destun

- arwain, cynnal, datblygu a gweithredu fel aelod o dî
- weithio o dan bwysau yn hyblyg ac ymatebol yn ôl y gofyn.
- ddelio'n briodol a gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol.
- flaenoriaethu a chymryd cyfrifoldeb, gan ddirprwyo'n effeithiol yn ôl yr angen.
- ddangos blaengaredd.
- feddwl, cynllunio a gweithredu ar lefel strategol.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
Hanfodol
- Profiad helaeth o reoli swyddfa neu gymhwyster cydnabyddedig Lefel 3 neu uwch mewn un o'r meysydd isod:
Gweinyddiaeth / Rheolaeth / Arweinyddiaeth / Busnes / Cyllidol / Ysgrifenyddol / Technoleg Gwybodaeth. - Parodrwydd i fod yn rhagweithiol ac i ddatblygu'n broffesiynol yn barhaus er mwyn ymateb i ofynion newidiol y swydd.
Dymunol
- Profiad helaeth o reoli swyddfa a chymhwyster proffesiynol Lefel 4 neu uwch mewn un o'r meysydd isod:
Gweinyddiaeth / Rheolaeth / Arweinyddiaeth / Busnes / Cyllidol/ Ysgrifenyddol / Technoleg Gwybodaeth. - Diploma Uwch Ysgrifenyddol.
- Profiad o weithio ar systemau SIMS.
PROFIAD PERTHNASOL
Hanfodol
- Profiad o reoli a chynghori ar faterion cyllid ac adnoddau dynol.
- Profiad o weinyddu ar lefel uwch.
- Profiad o arwain tîm yn llwyddiannus.
- Profiad o reoli newid yn llwyddiannus.
- Ymwybyddiaeth o waith ysgolion a'r Adran Addysg.
- Ymwybyddiaeth o reoliadau llywodraethu ysgolion.
- Ymwybyddiaeth o ofynion diogelu mewn ysgolion.
Dymunol
- Profiad o weithio mewn maes addysg.
- Profiad o sefydlu ac arwain systemau gweinyddol.
- Profiad o weithio ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.
- Profiad o weithio ar systemau SIMS.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
Hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol gydag ystod o gynulleidfaoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau trefnu a blaenoriaethu.
- Arddangos lefel uchel o sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol.
- Ymwybyddiaeth o drefniadau cyllidol ac adnoddau dynol mewn maes addysg.
- Sgiliau TG o ansawdd uchel. Gwybodaeth helaeth o systemau Office, TG a thechnoleg gyfrifiadurol gan gynnwys dealltwriaeth gadarn o ddatblygu a chynhyrchu taenlenni.
- Gallu i weithio o dan bwysau ac i derfynau amser.
- Gweithio mewn amgylchedd prysur lle mae gofynion cyson yn amharu ar lif y gwaith.
- Gallu a pharodrwydd i fod yn hyblyg.
- Gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd, llunio adroddiadau a gwneud argymhellion clir o fewn meysydd o gyfrifoldeb.
Dymunol
- Gwybodaeth am drefniadau cyllidol ac adnoddau dynol mewn maes addysg ynghyd a'r gallu i ddehongli data cyllidol ysgolion ac adrodd arnynt.
- Profiad o ddefnyddio systemau SIMS.
Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal a'i gilydd.
Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeiliad y swydd yn y ffurflen gais. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Swydd Ddisgrifiad
Teitl y Swydd: Rheolwr Busnes a Chyllid
Gwasanaeth: Ysgolion
Maes Gwasanaeth: Ysgol Ardudwy
Yn gyfrifol i: Pennaeth Ysgol Ardudwy
Oriau Gweithio: 37 awr yr wythnos.
(42 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 2 wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol.
Gwyliau i'w cymryd yn ystod gwyliau ysgol
Graddfa: S4 pwyntiau 26-28
Pwrpas y Swydd
- Bydd deiliad y swydd yn rheoli cyllideb ddirprwyedig yr ysgol a sicrhau bod trefniadau monitro cadarn yn eu lle i gynnal y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau yn unol â rheoliadau ariannol a rheolau sefydlog.
- I fod yn uniongyrchol gyfrifol am weinyddiad effeithiol yr ysgol gan oruchwylio holl staff gweinyddol yr ysgol.
- I weithio'n rhagweithiol mewn partneriaeth gyda'r Uwch Dîm Rheoli i sicrhau darparu gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyrraedd nod a blaenoriaethau'r ysgol.
Prif Gyfrifoldebau
- Cyfrifoldeb am reolaeth ariannol yr ysgol. Paratoi cyllidebau manwl tair blynedd sy'n dangos sefyllfa'r gyllideb a ragwelir ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar staffio a niferoedd disgyblion gan gymryd i ystyriaeth y blaenoriaethau a nodir yn y cynllun datblygu ysgol.
- Hwyluso'r broses cynllunio ariannol tymor canolig ar gyfer yr ysgol gan weithio mewn ymgynghoriad â'r uned gyllid addysg i sicrhau bod trefniadau monitro cadarn yn eu lle a fydd yn cefnogi nodi arbedion ar draws yr ysgol.
- Arwain a rheoli gwaith staff gweinyddol ac ategol yr ysgol.
- Rheoli cyfleusterau'r ysgol, rheoli a monitro contractau, caffael, tendrau a chytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ysgol, sicrhau fod adeiladau'r ysgol yn gweithredu yn unol â gweithdrefnau brys a chadw at ofynion Iechyd a Diogelwch.
- Cyfrifoldeb am ddefnydd cymunedol o'r ysgol, gan wneud trefniadau ar gyfer gosod yr ysgol a threfnu i ymateb i anghenion y defnyddwyr, bilio a derbyn taliadau.
- Gweithredu fel Swyddog Arholiadau'r ysgol.
- Gweithredu fel Clerc i'r Corff Llywodraethu.
- Cefnogi'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu i sicrhau bod polisïau'r ysgol yn unol â'r gofynion statudol.
Rheoli Cyllid
- Paratoi adroddiadau monitro cyllideb i'w cyflwyno i'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu gan gynnwys monitro incwm a gwariant trwy gydol y flwyddyn a darparu cyngor ac argymhellion i sicrhau fod gwariant o fewn y gyllideb arian gyfyngedig.
- Gweithio'n rhagweithiol i ganfod ffyrdd newydd o weithio a herio'r dulliau presennol o ddarparu gwasanaethau er mwyn lleihau pwysau costau yn y dyfodol.
- Rheoli gweinyddiaeth ddyddiol y gyllideb gan ddefnyddio'r system SIMS FMS - sicrhau cywirdeb holl drafodion ffeil cysoni'n fisol, prosesu archebion, anfonebau, incwm, a gwneud trosglwyddiadau cyllidol mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth a'r Is-bwyllgor Cyllid.
- Llunio'r gyllideb a'r gyllideb ddiwygiedig mewn cydweithrediad â'r Pennaeth.
- Darparu gwybodaeth cyson am balansau arfaethedig yr ysgol fel ffynhonnell wybodaeth greiddiol i Is-bwyllgor Cyllid y Corff Llywodraethu.
- Mewn cydweithrediad â'r Pennaeth, goruchwylio rheolaeth ariannol ffrydiau ariannu allanol drwy ddarparu gwybodaeth amserol a chywir am ddefnydd grantiau i dîm cyllid y Cyngor/GWE a sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle sy'n cadw at reolau a rheoliadau ariannol.
- Cau cyfrifon diwedd y flwyddyn yn unol â'r rheoliadau ariannol a safonau cyfrifeg broffesiynol.
- Cynghori'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu ar y defnydd gorau o adnoddau er mwyn hwyluso'r gwaith o godi a monitro perfformiad yn ogystal â mesur targedau perfformiad cywir ac amserol.
- Rheoli a gweinyddu cronfa preifat yr ysgol a pharatoi cyfrifon diwedd flwyddyn yn amserol a chywir a threfnu i'r cyfrifon gael eu archwilio gan archwiliwr allanol.
- Rheoli a gweinyddu holl drafodion cerdyn credyd yr ysgol a sicrhau bod tystiolaeth gywir ar gyfer pob trafodiad a'i drosglwyddo i'r Pennaeth i'w awdurdodi o fewn yr amserlen briodol.
- Darparu gwybodaeth yn ôl yr angen ar gyfer adran archwilio'r Cyngor.
- Rheoli a gweinyddu'r cynllun gwersi offerynnau cerdd.
- Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd fynychu gwahanol gyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd yr Uwch Dîm Rheoli, Is-bwyllgor Cyllid a'r Corff Llywodraethu. Bydd presenoldeb mewn rhai cyfarfodydd tu allan i oriau gwaith hefyd yn un o ofynion allweddol y rôl.
Corff Llywodraethu
- Gweithredu fel Clerc i'r Corff Llywodraethu a'i Is-bwyllgorau, gan gymryd cyfrifoldeb am alw a chofnodi cyfarfodydd, trefnu rhaglen, paratoi cofnodion ac adroddiadau, cynghori yn ôl yr angen a gweithredu ar benderfyniadau. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd fynychu cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd y Corff Llywodraethu. Bydd presenoldeb yn y cyfarfodydd hyn tu allan i oriau gwaith hefyd yn un o ofynion allweddol y rôl.
- Rheoli'r holl ofynion statudol mewn perthynas â'r llywodraethwyr unigol - hyfforddiant mandadol, rhestr buddiannau, egwyddorion ymddygiad, gwiriadau DBS.
- Paratoi Adroddiad Blynyddol y Corff Llywodraethu i'r rhieni.
- Disgwylir i'r Clerc gydweithio gyda'r Pennaeth a'r Cadeirydd i arfarnu ansawdd gwaith y Corff Llywodraethu yn unol â'r canllawiau cenedlaethol
- Cadw cofnod o holl bolisïau'r ysgol a thynnu sylw'r Pennaeth a'r Cadeirydd i'r angen i adolygu polisïau penodol yn rheolaidd. Gofalu bod polisïau newydd a dderbynnir o'r Cyngor/Llywodraeth Cymru yn cael eu mabwysiadu'n amserol gan y Corff Llywodraethu.
Goruchwylio a Rheoli Pobl ac Adnoddau Dynol
- Rheoli tîm o Staff Gweinyddol/Ategol gan gynnwys y Swyddog Gweinyddol, Staff y Swyddfa/Derbynfa, Technegwyr, Glanhawyr a'r Gofalwr gan ddirprwyo a rhannu cyfrifoldebau a dyletswyddau yn ôl anghenion ac arbenigedd.
- Cynnal cyfarfodydd Rheoli Perfformiad Staff Gweinyddol/Ategol gan osod amcanion blynyddol a'u hadolygu.
- Mewn cydweithrediad â'r Pennaeth, llunio neu addasu swydd ddisgrifiadau Staff Gweinyddol/Ategol yn ôl yr angen.
- Cyfrifoldeb am faterion personél holl staff yr ysgol megis gweinyddu penodiadau a materion cyflog.
- Cydweithio ag Adran Bersonél yr Awdurdod i sicrhau fod yr Uwch Dîm Rheoli yn derbyn cyngor ac arweiniad ar faterion cyflogaeth.
- Cydlynu a chadw cofnodion o faterion staffio yn ymwneud â hyfforddiant, amddiffyn plant, gwiriadau troseddol a chadw cofrestr gyfredol o hyfforddiant staff yr ysgol gyfan.
- Gweinyddu'r drefn absenoldebau staff a chadw manylion am bresenoldeb ac absenoldebau staff ac ymdrin a phryderon presenoldeb/prydlondeb staff Gweinyddol/Ategol a'r Cymorthyddion Cefnogaeth Dysgu/Swyddogion Cynhwysiad.
- Cwblhau'r ffurflenni priodol ac ardystio cywirdeb ceisiadau am dâl.
- Rheoli amserlen a rhaglen waith Athrawon Llanw ac Uwch Gymorthyddion Cyflenwi Gwersi yn unol â'r galw a gweinyddu'r trefniadau cyflenwi dyddiol.
- Anwytho Athrawon Llanw newydd i'r ysgol.
- Cofnodi cyfarfodydd staff yr ysgol ar gais y Pennaeth.
Arholiadau a Chymwysterau - Swyddog Arholiadau
- Rheoli a gweinyddu trefn arholiadau allanol yr ysgol gan sicrhau cydymffurfiad lawn o reoliadau a weithdrefnau'r Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC).
- Gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng yr ysgol a'r byrddau arholi a'r CGC gan:
- Sicrhau fod ymgeiswyr yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau allanol yn ystod y flwyddyn gan:
- Derbyn a diogelu'r papurau arholiadau yn unol a rheoliadau'r CGC a sicrhau fod yr holl ddeunyddiau wedi eu derbyn yn yr ysgol mewn da bryd.
- Sicrhau gweinyddiaeth a threfn goruchwylio effeithiol yn ystod yn arholiadau (gyda chymorth aelodau staff eraill) gan gynnwys cynnal sesiynau hyfforddi blynyddol.
- Bod yn bresennol yn yr ysgol ar ddiwrnod rhyddhau'r canlyniadau a pharatoi adroddiadau canlyniadau i'w cyflwyno i'r disgyblion.
- Mynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi yn ôl yr angen i sicrhau bod yr ysgol yn gwbl gyfarwydd ac yn cydymffurfio'n llawn gyda rheoliadau cyfredol y CGC a gofynion byrddau arholi penodol.
- ddosbarthu gwybodaeth a dderbynnir gyda'r athrawon priodol.
- drosglwyddo gwybodaeth briodol i'r byrddau arholi yn unol ag amserlen benodol.
- gynghori'r Pennaeth am yr wybodaeth ddiweddaraf a ddaw o'r byrddau arholi a'r CGC.
- gysylltu â byrddau arholi a'u swyddogion yn ôl y galw.
- drefnu dull o gasglu gwybodaeth gan yr ymgeiswyr a'u hathrawon.
- brosesu'r wybodaeth ar y modiwl SIMS Exams Organiser.
- anfon ffeiliau cofrestriadau electroneg i'r byrddau arholi perthnasol yn unol ag amserlen benodol gan ddefnyddio'r system rhyngwê.
- cydweithio â'r Penaethiaid Adrannau i gywiro cofrestriadau yn ôl yr angen.
- sicrhau fod yr ymgeiswyr a'u rhieni yn derbyn amserlenni ac unrhyw wybodaeth berthnasol mewn da bryd.
Systemau Rheolaethol
- Rheoli a datblygu systemau ar gyfer cynnal a chadw ffeiliau staff a disgyblion, cynhyrchu ffeiliau CTF disgyblion sy'n trosglwyddo a sicrhau fod y wybodaeth ar gyfer y cyfrifiadau PLASC a SWAC blynyddol ac adroddiadau cenedlaethol eraill yn gywir.
- Rheoli bod y wybodaeth a'r data a gadwir yn y system reolaethol SIMS ac unrhyw gofnodion eraill yn gywir ac yn cydymffurfio gyda gofynion diogelu data.
- Gosod fframwaith y flwyddyn academaidd yn y system rheolaethol SIMS gan gynnwys cyfansoddiad dosbarthiadau ac amserlenni.
- Paratoi ystadegau ac adroddiadau perthnasol i'r Corff Llywodraethu, y Cynulliad, yr Awdurdod Addysg, GwE, y Cwmni Gyrfa, ac unrhyw gorff arall ar gais y Pennaeth.
Adeiladau a Thiroedd / Defnydd o'r Adeiladu a Thiroedd gan y Cyhoedd
- Cydlynu trefniadau ar gyfer defnydd cymunedol o'r ysgol gan gynnwys:
- Mewn ymgynghoriad â'r Uwch Dîm Rheoli a'r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, cysylltu â swyddogion Adran Eiddo y Cyngor a gweithwyr perthnasol i drefnu gwaith yn yr ysgol.
- trefnu anghenion y defnyddwyr.
- paratoi cytundebau llogi ysgrifenedig.
- presenoldeb y Gofalwr.
- anfon biliau a derbyn taliadau.
Amodau Cyffredinol a Gwaith Arbennig
- Paratoi ystadegau ac adroddiadau perthnasol i'r Corff Llywodraethu, yr Awdurdod Addysg a'r Llywodraeth.
- Yn dilyn ymgynghoriad, ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill ar gais y Pennaeth.
- Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn gallu gyrru a chael mynediad i gar i fynychu cyfarfodydd a chyflawni dyletswyddau cysylltiedig eraill.
Gweledigaeth / Cyd-destun
- Bydd deiliad y swydd yn cynnig cyngor proffesiynol, cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant ar gynllunio effeithiol ariannol, rheoli ariannol, a ffyrdd newydd o weithio.
- Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt rhwng yr ysgol a nifer o adrannau'r Cyngor.
- Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o gyllid ysgolion a'r rheoliadau, rheolau a chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Cyngor i sicrhau bod safonau perthnasol o ran rheolaeth ariannol yn cael eu cynnal.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi