MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

ATHRO/ATHRAWES DOSBARTH, YSGOL GYMUNEDOL HEOLGERRIG

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
ATHRO/ATHRAWES DOSBARTH

YSGOL GYMUNEDOL HEOLGERRIG (NOR 214)

Prif Raddfa Dysgu
Llawn Amser / Parhaol

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 12 Ebrill 2024

Angen ar gyfer Medi 2024

Mae'r Corff Llywodraethu am apwyntio athro dosbarth neilltuol sydd yn meddu ar y cymwysedddau a'r sgiliau i weithio â holl dîm yr ysgol er mwyn cyflawni deilliannau gwych i'n disgyblion. Rydym yn edrych am ymarferwr ysbrydoledig, ymroddedig a brwdfrydig i ddatblygu ar lwyddiant yr ysgol ac i symud yr ysgol yn ei blaen i'r cam nesaf.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
• Yn meddu ar dystiolaeth â brofwyd o fod yn ymarferwr dosbarth gwych;
• Yn frwdfrydig ac yn meddu ar allu i ysbrydoli disgyblion i gyflawni'r deilliannau gorau;
• Yn meddu ar ddealltwriaeth gyfredol o drawsffurfiad AAY a Chwricwlwm Cymru;
• Yn meddu ar ddealltwriaeth wych o ddatblygiad y cwricwlwm, datblygiad ac asesaid ac addysgeg;
• Yn meddu ar barodrwydd i arwain pob Maes Dysgu a mentrau eraill, ledled yr ysgol;
• Yn meddu ar allu i ddysgu'r Gymraeg yn y Cwricwlwm Cynradd;
• Yn meddu ar allu i weithio'n effeithiol â staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.

Mae'r swydd yn destun gwiriad ehangach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o bob cymhwyster a nodwyd i fod yn angenrheidiol.

Gellir cael ffurflenni cais ar lein - www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch gael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a dylech eu dychwelyd, ddim hwyrach na 12 Ebrill 2024 i Gweinyddiaeth AD, Canolfan Dinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad y Gymraeg yn ddymunol.

Gallwn gau dyddiad y swydd ynghynt na'r dyddiad cau.

Rhestr fer: Dydd Llun 15 Ebrill
Arsylwadau Dosbarth: Dydd Iau 18 a Dydd Gwener 19 Ebrill.
Cyfweliadau: Dydd Llun 22 Ebrill 2024.

Gall unrhywun sydd â diddordeb yn y swydd, ffonio'r Pennaeth, Mrs Anna Morris, er mwyn trafod y swydd a hynny cyn llunio'r rhestr fer er mwyn trefnu ymweliad anffurfiol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.
Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, cysylltwch â ni er mwyn dweud wrthym os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr tudful yn ymrwymedig i ddiogelu'r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Bydd gwiriadau cyncyflogaeth trylwyr yn cael eu gwneud ar gyfer pob swydd fel rhan o'r broses recriwtio a dethol.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson heb awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod neu wedi'ch cyflogaeth oni bai y bydd disgwyl i chi wneud hynny dan amodau eich cyflogaeth, pan fydd yn ofynnol, yn gyfreithiol i wneud hynny neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall torri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn rhoi gwerth ar amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis sydd yn ymroddedig i hybu ac integreiddio cydraddoldeb cyfle ymhob agwedd o'n gwaith. Croesawn geisiadau gan bawb ac anogwn ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymrwymedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn ystod y broses recriwtio a dewis a hynny ar sail oed, anabledd, rhywedd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth.