MANYLION
  • Lleoliad: Monmouth, Monmouthshire, NP25 3XR
  • Testun: Pennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Ebrill, 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

PENNAETH ADDYSGU

Cyngor Sir Fynwy
Mae'n bleser gan y Corff Llywodraethu gyhoeddi y bydd Ysgol Gymraeg Trefynwy yn dechrau ym mis Medi 2024 fel egin-ysgol ar safle Ysgol Overmonnow ac yn ystod 2024-2025 bydd gwaith adeiladu sylweddol yn cael ei wneud i greu dwy ysgol annibynnol. Disgwylir i Ysgol Gymraeg Trefynwy agor ym mis Medi 2025 a bydd ganddi gapasiti cychwynnol o 90 gydag ehangu arfaethedig i 210 erbyn 2032 fel y'i cynhwysir yn y CSCA diweddaraf (Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg). Bydd cynlluniau adeiladu ar gael sy'n dangos y gwaith sy’n dechrau'n fuan. Mae gennym ddisgyblion eisoes wedi cofrestru ac yn barod i ddechrau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n foment gyffrous a hanesyddol i dref Trefynwy. Mae grŵp Ti a Fi ffyniannus o dan arweinydd ysbrydoledig ac o 2025 mae Cylch Meithrin gyda darpariaeth cofleidiol lawn wedi'i gynllunio yn yr ysgol.


Mae'r llywodraethwyr yn chwilio am rywun:

1. Sy'n arweinydd ysbrydoledig ac effeithiol. Sy'n ysbrydoli, yn cymell ac yn grymuso eraill ac a fydd yn ysgogi ac yn hyrwyddo ethos ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhrefynwy.
2. Sy'n frwd dros ddiwylliant Cymru ac a fydd yn mwynhau'r her bwysig a hanesyddol o ailgysylltu cenhedlaeth newydd gyfan yn Ne-ddwyrain Cymru â'r Gymraeg. Sydd ag angerdd ac yn frwd ac eisiau rhannu'r Gymraeg gyda disgyblion a'r gymuned ehangach i'w galluogi i dyfu a byw trwy gyfrwng y Gymraeg..
3. A fydd yn tynnu sylw at fanteision dwyieithrwydd mewn cymdeithas ddatganoledig sy'n newid yn barhaus fel yng Nghymru.
4. Sy'n unigolyn sy'n deall heriau a chymhlethdodau sefydlu ac arwain ysgol newydd a bydd yn sicrhau cydweithrediad da rhwng Ysgol Overmonnow ac Ysgol Gymraeg Trefynwy drwy gytundeb partneriaeth.
5. Sy'n gweithio ochr yn ochr â'r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg presennol yng Nghyngor Sir Fynwy i harneisio agweddau gorau arfer da a dysgu ar y cyd er lles pob disgybl.
6. Sydd ag ymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth â staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.
7. Sy’n cyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel: disgyblion, staff, rhieni a'r gymuned ehangach.
8. Sy’n unigolyn â ffocws cymunedol sy’n gallu cynnal, datblygu a hyrwyddo partneriaethau ag asiantaethau allanol a’r gymuned leol. Hoffem weld bod gan yr ysgol bresenoldeb yn y gymuned, gyda'r Pennaeth yn eiriolwr dros y Gymraeg o fewn yr ysgol a'i defnydd yn y gymuned ehangach.
9. Sy’n dangos meddwl strategol tuag at sefydlu cysylltiadau cryf â'r gymuned ehangach sy'n cefnogi ethos, diwylliant a gwerthoedd ysgol cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd Sir Fynwy.
10. Sy'n mynd ati i hyrwyddo a recriwtio teuluoedd o'r un anian sydd eisiau dewis yn Sir Fynwy ar gyfer dwyieithrwydd ac a fyddai'n cefnogi ein hethos ni. Sgiliau hanfodol fydd y gallu i uniaethu â rhieni a gweithio'n dda gyda nhw a datblygu perthynas gref â nhw.
11. Sy’n gallu dangos sgiliau rheoli o ansawdd uchel i'r holl randdeiliaid (staff, rhieni, llywodraethwyr, ffrindiau a disgyblion) a gallu cyflwyno, trafod a gwneud penderfyniadau er lles pawb yng nghymuned yr ysgol. Yn gall rheoli'r adnoddau a'r cyllid sydd ar gael i'r ysgol a sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon.
12. Yn gallu sicrhau bod pob aelod o staff yn cael cyfleoedd rheolaidd i gymryd rhan mewn ystod o ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel i ddatblygu sgiliau addysgu ac arwain rhagorol.
13. Yn gall gwarantu y bydd pob plentyn yn derbyn addysg o'r radd flaenaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gall y Corff Llywodraethu gynnig:

Corff llywodraethu cefnogol, ymroddedig ac ymgysylltiol sy'n frwd dros weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r gorau i'n holl blant.