MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Arweinydd Maes Cerddoriaeth - Ysgol Dyffryn Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Ysgol Dyffryn Conwy

Ffordd Nebo, Llanrwst, Conwy. LL26 0SD

Ffôn: 01492 642802

E-bost: fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk

www.ysgoldyffrynconwy.org

Yn eisiau erbyn mis Medi 2024

Arweinydd Maes Cerddoriaeth

Oriau: Llawn Amser

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + CAD 2a (£3,271)

Cyfle ir ymgeisydd llwyddiannus i ymgeisio am swydd fewnol fel Arweinydd Maes Celfyddydau Mynegiannol (CAD 2c £7,986)

Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol Gymunedol ddwyieithog gyda 600 o ddisgyblion oedran 11-18 yn cynnwys 106 yn y Chweched Dosbarth. Lleolir yr ysgol yn nhref Llanrwst gyda'r ysgol yn gwasanaethu'r dref a'r holl Ddyffryn.

Yn Ysgol Dyffryn Conwy credwn yn gryf mewn partneriaeth a'r disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach. Cynigwn i bob disgybl beth bynnag eu gallu a chefndir ymdeimlad o werth, hunan hyder ac ysgol hapus a chartrefol. Anelwn at ddarparu'r addysg orau posib i ddatblygu dysgwyr yn hyderus ddwyieithog ac yn ddysgwyr annibynnol gyda'r sgiliau angenrheidiol i'r dyfodol.

Ein nod yw datblygu pob plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial mewn sawl maes a thrwy amrywiol weithgareddau a chyfleoedd. Sicrheir cwricwlwm addas, eang a heriol i bob plentyn. Credwn mewn llwyddiant i bawb, gan roi pob cymorth iddynt lwyddo.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Cofnodi Troseddau. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu a bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â Mrs Ffion Sabit, Clerc y Llywodraethwyr

ar e-bost fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk

This form is also available in English.