MANYLION
  • Lleoliad: Cardigan,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Arbenigol - Ysgol Gynradd Aberporth

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Cyflog: Gradd athro/athrawes (£30,742 - £47,340 y flwyddyn) a Lwfans ADY 1.

Rydym yn edrych am athro/athrawes ragorol i addysgu yng Nghanolfan y Don yn yr ysgol, i ddechrau ym Mai yn nhymor yr Haf 2024 neu'r dyddiad cynharaf yn dilyn hynny.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd â dealltwriaeth â phrofiad arbenigol.

Bydd yr Athro yn gweithio dan gyfarwyddyd y Pennaeth a chydlynydd ADY yr ysgol. Mae'r ganolfan hon yn cynnig darpariaeth ar gyfer disgyblion y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2 sydd ag anghenion dysgu, corfforol a/neu meddygol dwys.

Mae'r Ganolfan yn cynnig lleoliad gofalgar a gweithgareddau dysgu sydd yn cael eu gwahaniaethu mewn ffordd addas i gwrdd ag anghenion disgyblion unigol. Bydd yr holl ddisgyblion yn cael mynediad i raglenni sydd wedi'u teilwra'n unigol i gwrdd â'u hanghenion. Bydd disgyblion yn cael eu integreiddio i addysg brif ffrwd pan fo'n briodol.

Bydd gan yr Athro/awes y gallu i addysgu gwersi rhagorol, a'r gallu i greu perthynas ystyrlon fydd yn ysbrydoli disgyblion gydag anawsterau dwys.

Mae y Ganolfan yn gweithio mewn ffordd hyblyg i gwrdd ag anghenion disgyblion yng Ngheredigion. Disgwylir felly y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg ar draws y Cyfnodau Allweddol o fewn y Ganolfan, ac o fewn y lleoliad prif ffrwd.

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Elen Evans ar 01239 810081 neu EvansE1615@aberporth.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant