MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL TRYFAN, BANGOR
(Cyfun 11 - 18; 521 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2025
ATHRO / ATHRAWES Cymraeg / Dyniaethau
Swydd Rhan Amser (0.6) dros dro am flwyddyn
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Disgwylir i'r sawl a benodir addysgu Cymraeg a Dyniaethau yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944 pro rata) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU
(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )
Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD MERCHER, 11 MEHEFIN, 2025.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau W/C 16/06/25
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Statws athro/athrawes cymwysedig
- Yn meddu ar radd safonol mewn maes perthnasol
DYMUNOL
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol perthnasol diweddar
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o:
- sgiliau rheolaeth dosbarth effeithiol
- gynnal gwersi heriol a diddorol
- ddefnyddio adnoddau yn effeithiol
- osod a gweithredu disgwyliadau uchel yn gyson
- gynllunio'n llwyddiannus ac yn drwyadl
- gyfrannu at fywyd allgyrsiol ysgol
- gydweithredu fel aelod o dîm
- addysgu'r pwnc hyd at Safon Uwch
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol cyfredol yn y maes
- Person egniol gyda'r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant
- Y gallu i weithio o dan gyfarwyddid a chydweithio fel aelod o dîm
- Y gallu i sicrhau dysgu o'r safon uchaf, cyfleoedd dysgu unigol o safon uchel i bob disgybl, a safonau cyrhaeddiad uchel
- Y gallu i ddefnyddio asesiadau'n effeithiol
- Sgiliau rhagorol wrth reoli ymddygiad disgyblion
- Defnydd effeithiol o DGCh
- Y gallu i addysgu'r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg
- Y gallu i arwain llwyddiant a gwelliant adran trwy brosesau hunan arfarnu.
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Person egniol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel
- Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf
- Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol
- Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol
- Y gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu i fywyd allgyrsiol yr ysgol
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.
Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig mewn modd gwbl hyderus
Swydd Ddisgrifiad
Gwybodaeth ar gyfer y swydd Athro/Athrawes Cymraeg / Dyniaethau
I gychwyn 01/09/25 - (Swydd Rhan Amser (0.6) dros dro am flwyddyn)
MANYLION AM YR YSGOL
Ysgol uwchradd sy'n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i gylch Bangor yw Ysgol Tryfan. Mae yma 521 o ddisgyblion 11-18 oed ar hyn o bryd, gyda 60 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth erbyn hyn.
Ymhyfrydwn yng nghanlyniadau rhagorol ein disgyblion yn yr arholiadau allanol, y gymdeithas glos a chyfeillgar sy'n bodoli yn yr ysgol a'r sylw unigol a roddwn i ddisgyblion mewn dosbarthiadau bychain wrth gynorthwyo ac ymestyn.
Mae amserlen yr ysgol yn seiliedig ar 6 gwers 50 munud y dydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr ysgol: www.ysgoltryfan.org . Yno ceir blas ar fywyd yr ysgol a gellir lawrlwytho dogfennau megis prosbectws yr ysgol a'r adroddiad diweddaraf gan Estyn.
Datganiad o werthoedd yr ysgol.
Yn Ysgol Tryfan amcanir i greu cymdeithas glos, Gymraeg ei hiaith, ble fod pawb-
- yn hapus ac yn hyderus;
- yn llwyddo hyd eithaf eu gallu ym mhob maes;
- yn arddel hunan-barch a pharch at eraill;
- yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rhagoriaeth yw nod yr ysgol yn ei holl weithgaredd. Cred yr ysgol mewn bod yn agored ac yn ymatebol.
Nodau.
Amcanion
Y SWYDD
Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2025
ATHRO / ATHRAWES Cymraeg / Dyniaethau
Swydd Rhan Amser (0.6) dros dro am flwyddyn
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Disgwylir i'49,944 pro rata) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU
(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )
Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD MERCHER, 11 MEHEFIN, 2025.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau W/C 16/06/25
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi