MANYLION
  • Lleoliad: Chepstow, Monmouthshire, NP16 6RN
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 3

Cyngor Sir Fynwy
Mae cyfle wedi codi i wneud gwahaniaeth go iawn; y cyfle i ddod yn rhan o
dîm effeithiol iawn.

Rydym yn chwilio am ymarferydd ysbrydoledig sy'n angerddol dros wneud gwahaniaeth i brofiadau bywyd plant.

Bydd gennych ddisgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad; yn herio pob plentyn i gyflawni eu gorau personol. Gyda’ch egni a’ch ymrwymiad i fynd y ‘filltir ychwanegol’, byddwch yn llunio dyfodol ein hysgol mewn cytgord â’n hethos a’n gweledigaeth. Rydych yn credu mewn gwelliant parhaus i chi'ch hun fel ffordd o gyflawni'r gorau i blant a theuluoedd ein cymuned.

Ein gweledigaeth yn y Drenewydd Gelli-farch yw Dysgu Gyda'n Gilydd | Cyflawni Gydol Oes. Bydd eich rôl yma yn rhan annatod o'r gwaith o ddod â'r weledigaeth honno’n fyw. Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 bydd eich swydd yn amrywiol ac yn ddiddorol! Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg, gan weithio ar draws yr ysgol - o gefnogi disgyblion yn y dosbarth; gweithio gyda nhw mewn grwpiau bach; ar sail un i un, ac yn ymgymryd â dyletswyddau goruchwyliaeth pan fo angen. Byddai cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (3 Diwrnod) yn ddefnyddiol iawn, neu'n ymrwymiad i ennill y cymhwyster