MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Gofal Plant

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cynorthwy-ydd Gofal Plant
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Cynorthwy-ydd Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 18.5 oriau ar y wythnos – Bore Dydd Llun – Bore Dydd Gwener
Math o gontract: Cyfnod Penodol Tan 31 ain Mawrth 2025, Rhan Amser, Yn Ystod y Tymor yn Unig
Lleoliad: Parc Y Felin ICC

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm y Blynyddoedd Cynnar ehangach.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £10,334.21 - £11,424.36 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae cyfle newydd cyffrous wedi codi yng Ngwasanaeth Gofal Plant bywiog ac o ansawdd uchel Dechrau'n Deg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer Cynorthwyydd Gofal Plant newydd. Bydd y swydd yn gontract 18.5 awr yr wythnos am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025 gyda'r potensial i'w ymestyn yn amodol ar gyllid parhaus Dechrau'n Deg. Bydd y Cynorthwyydd yn cael ei leoli, yn bennaf, yn lleoliad gofal plant Parc y Felin yng Nghaerffili, fodd bynnag, oherwydd natur y swydd mae’n bosibl y bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo lleoliadau Dechrau'n Deg eraill ledled y Fwrdeistref Sirol o bryd i'w gilydd. Gan fod y swydd hon wedi'i lleoli yn ein Canolfan Integredig i Blant cyfrwng Cymraeg, mae angen naill ai siaradwr Cymraeg rhugl neu ddysgwr Cymraeg arnon ni i ymuno â'n tîm.

Mae'r Cynorthwyydd Gofal Plant yn rhan o dîm gofal plant hanfodol sy'n cynorthwyo darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel; sefydlu perthnasau effeithiol gyda rhieni/gofalwyr a phlant; cynorthwyo gyda gwaith monitro a gwerthuso'r rhaglen; gweithio gyda'r tîm i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol a safonau ar gyfer darpariaeth gofal plant gofrestredig; cynorthwyo amgylchedd cynhwysol a pharchus; cynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol ac anghenion sy'n dod i'r amlwg; a gweithio gyda phartneriaid amlasiantaethol i gyflwyno'r rhaglen yn ddi-dor.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Chymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant (gradd gyflog 4) neu Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant (gradd gyflog 5) yn y cymhwyster perthnasol
  • Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfarwydd â Chanllawiau Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Plant o Ansawdd Da.
  • Trwydded yrru Categori B llawn y DU a modd i ddefnyddio cerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i weithio mewn gwahanol leoliadau ledled y fwrdeistref

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Fiona Santos ar 07810438505 neu ebost: santof@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.