MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth (Ysgol Gynradd Tre'r Llai)

Cyngor Sir Powys
Pennaeth (Ysgol Gynradd Tre'r Llai)
Swydd-ddisgrifiad
Pennaeth,

Parhaol neu dros dro (secondiad neu gytundeb 2 flynedd)

ISR 7 - 13 (gyda rôl dysgu 0.4, ond yn gallu newid)

Ei angen erbyn 1af Medi 2024

Mae corff llywodraethol yr ysgol gynradd groesawgar hon yn dymuno penodi pennaeth brwdfrydig ac arloesol sydd:
  • â hanes cryf fel arweinydd effeithiol ac athro rhagorol, sy'n ysbrydoli ac yn grymuso'r rhai o'u cwmpas.
  • â gweledigaeth glir i ddatblygu'r ysgol ymhellach, i gyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru, a'r sgiliau a'r penderfyniad i gyflawni'r weledigaeth honno gyda chymorth staff, rhieni a llywodraethwyr.
  • â disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad disgyblion.
  • yn arwain ac yn cymell disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i greu diwylliant effeithiol a chynhwysol o ddysgu gydol oes
  • yn credu mewn manteision partneriaeth agos rhwng yr ysgol, y grŵp rhieni a phlant bach a'r gymuned ehangach
  • yn gallu cydweithio yn effeithiol gyda rhwydweithiau clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol
  • yn angerddol am addysgu a dysgu ac yn dangos ymrwymiad llwyr i'r plant a'r staff.
  • yn gallu dangos gwytnwch ac optimistiaeth wrth wynebu heriau posibl a pharhau i yrru'r ysgol yn ei blaen.
  • yn ofalgar, yn gefnogol ac yn medru hyrwyddo gwaith tîm effeithiol o fewn tîm bach.
Gall yr ysgol gynnig i'r ymgeisydd cywir:
  • gymuned gynhwysol, hapus a chroesawgar lle mae oedolion a disgyblion yn dangos lefel uchel o garedigrwydd a pharch at ei gilydd; mae'r niferoedd yn caniatáu i ni adnabod a gwerthfawrogi pob un plentyn yn dda iawn
  • tîm o staff a chorff llywodraethol ymroddedig a chefnogol iawn, sydd yn mwynhau gweithio gyda'i gilydd er budd dyfodol eu disgyblion a'u hysgol
  • plant hapus, brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu ac yn mwynhau cael eu gwerthfawrogi fel unigolion
  • ysgol mewn lleoliad hardd, yng nghanol cymuned wledig ar ffin Powys/ Sir Amwythig
  • ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol a'ch lles personol
Mae Ysgol Tre'r Llai Yr Ystog yn ysgol gynradd gymunedol a leolir ym mhentref Tre'r Llai, ar gyrion Y Trallwng, gyda mynediad hawdd i Amwythig a Chroesoswallt. Mae 74 o ddisgyblion llawn amser rhwng 4 ac 11 oed yn yr ysgol ar hyn o bryd. Daw'r disgyblion sy'n mynychu'r ysgol o Dre'r Llai a'r cymunedau amgylchynol. Prif iaith bron pob disgybl ydy Saesneg.

Cafodd yr ysgol ei harolygu gan Estyn ym Mehefin 2023 a'i darganfyddwyd i fod angen gwelliant sylweddol. Mae gennym cynllun ôl-arolwg manwl, a gyda chymorth wedi'i deilwra gan yr awdurdod lleol, rydym yn gweithio'n galed ac yn gwneud cynnydd da wrth afael ymhob un o argymhellion Estyn.

Yn ystod y dydd, mae'r ysgol yn gwneud defnydd da o neuadd y pentref a'r maes parcio cyfagos. Mae'r safle'n amgylchynu iard chwarae a chae chwarae mawr, ynghyd â mynediad i gwrtiau tenis bob tywydd, sy'n cael eu rhannu gyda'r gymuned leol. Mae gennym ardal garddio gyda chafnau plannu tu allan i'r dosbarth dysgu sylfaen, a cheir ardal ysgol y goedwig hyfryd, sy'n cael ei rhannu.

Mae gennym glybiau brecwast ac ar ôl ysgol sydd yn ffynnu. Rydym yn agored i syniadau newydd a chreadigol, ac yn credu ym mhotensial pob plentyn yn ein gofal.

Mae croeso i chi ymweld â'n hysgol - os gwelwch yn dda, cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Lyn Harte ar 01938 553261, er mwyn trefnu amser cyfleus i'r ddwy ochr.

Diwrnod cau: Ebrill 7fed, 2024

Rhestr Fer: Ebrill 9fed, 2024

Cyfweliadau: Ebrill 23ain, 2024

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS