MANYLION
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro\/Athrawes Llawn Amser - blwyddyn 3 - Ysgol Pen y Bryn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL SYLFAENOL PEN Y BRYN

Rhodfa Wentworth , Bae Colwyn LL29 6DD

Pennaeth - Mr Richard Monteiro

01492 531260

Yn eisiau erbyn mis Mehefin 2024

ATHRO/ATHRAWES LLAWN AMSER - blwyddyn 3

Cytundeb Cyfnod Mamolaeth

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Pen y Bryn yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig. Gwahoddir ceisiadau am Athro/Athrawes llawn amser i addysgu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 dros gyfnod mamolaeth. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan

y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar (01492) 531260

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr dybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English