MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/ Athrawes Saesneg (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys
Athro/ Athrawes Saesneg (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion mwyaf hapus a llwyddiannus yng Nghymru. Rydym wedi'n bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos gofalgar a thîm staff ymroddedig dros ben. Dyma gyfle arbennig ar gyfer athro/ athrawes Saesneg ysbrydoledig i ymuno ag ysgol ofalgar, wedi'i gordanysgrifio, yng Nghanolbarth Cymru wledig, hardd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • yn ofalgar am les a llwyddiant academaidd pob disgybl;
  • yn medru addysgu Saesneg iaith a llenyddiaeth yn effeithiol hyd at a chan gynnwys Lefel A;
  • yn weithgar, yn ysbrydoli cariad tuag at ddysgu ac yn sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd y safon academaidd uchaf posibl;
  • yn ddynamig yn y dosbarth ac yn cynnal safonau uchel iawn o addysgu a dysgu;
  • â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn aelod da o dîm ac yn medru gweithio'n annibynnol;
  • â sgiliau trefniadol gwych ac agwedd ddiwyd tuag at y gwaith;
  • yn cyfrannu'n llawn tuag at ddarparu cyfleoedd allgyrsiol;
  • ag agwedd bositif tuag at ddatrys problemau.
Rydym am benodi athro Saesneg llawn amser. Gallai'r rôl gynnwys cyfle i fod yn Rheolwr Dysgu Cynorthwyol ac Arweinydd Llythrennedd. Gan weithio'n agos gyda'r Rheolwr Dysgu a'r adran, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i godi safonau ac yn parhau i wella darpariaeth llythrennedd a chynnydd ar draws yr ysgol.

Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 07/04/2024