MANYLION
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Pennaeth Addysgu, Dysgu ac Addysg
Application Deadline: 4 April 2024
Department: Rheolaeth
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Graig
Reporting To: Cyfarwyddwr Addysgu, Dysgu ac Addysg
Compensation: £47,696 - £50,815 / blwyddyn
DescriptionMae gan Goleg Sir Gâr gyfle cyffrous a phrin i Bennaeth Addysgu, Dysgu ac Addysg ymuno â'n tîm addysgu a dysgu gwobrwyedig yn barhaol.
Bydd y swydd yn rhoi cyfle i unigolyn arloesol a brwdfrydig weithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr, Penaethiaid Cwricwlwm a Darlithwyr i ddatblygu'r holl faterion addysgu a dysgu ar draws y Coleg er mwyn sicrhau ansawdd uchel parhaus ar draws AB, DSW ac AU. Byddwch yn dangos rhagoriaeth ac arloesedd drwy eich ymarfer addysgu a dysgu o ddydd i ddydd, ynghyd â'r gallu i gyfathrebu a rhannu arfer gorau.
Mae Addysgu a Dysgu wrth wraidd ein cymuned ac, ar draws y coleg, ein pwrpas yw meithrin profiad Addysgu a Dysgu trawsnewidiol sy'n croesawu amrywiaeth a chynhwysiant, sy'n hybu dysgu arloesol a rhyngweithiol, ac sy'n magu datblygiad cyfannol a datblygiad gydol oes.
Mae'r tîm addysgu a dysgu yn arwain y fframweithiau dysgu proffesiynol gwobrwyedig ac mae ein hymagwedd at Ddysgu Proffesiynol yn canolbwyntio ar egwyddor chwilfrydedd. Rydym yn mynd ati i annog pawb yn ein cymuned i archwilio syniadau newydd, herio meddwl confensiynol a chroesawu meddylfryd o ddysgu gydol oes.
Mae'r rôl hon yn ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer Addysgu, Dysgu a Dysgu Proffesiynol a byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Addysgu, Dysgu ac Addysg a'r Is-bennaeth Cwricwlwm ac Ansawdd i herio rhagdybiaethau, archwilio cyfleoedd a llunio'r profiad dysgu yn y dyfodol i'r rheiny i gyd sy'n gweithio ac yn dysgu yn ein coleg.
Ynglŷn â'r RôlFel y Pennaeth Addysgu, Dysgu ac Addysg, y prif bwrpas fydd:
Beth fydd ei angen arnochI fod yn llwyddiannus yn y rôl, bydd angen arnoch:
Yr Iaith Gymraeg:
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Mae'n debygol y bydd y gwaith o lunio rhestr fer yn cael ei gwblhau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 8fed Ebrill 2024. Os ydych yn llwyddiannus yn ystod llunio'r rhestr fer, mae'n debygol y bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn yr wythnos sy'n dechrau 24ain Ebrill 2024.
I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs/cyfarfod anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.
Buddion

- Rheoli'r holl ddatblygiadau dysgu ac addysgu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion;
- Rheoli'r holl ddatblygiad proffesiynol ar gyfer yr holl staff academaidd ar draws Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion;
- Rheoli'r holl ddatblygiadau cyfoethogi dysgu drwy dechnoleg (TEL) yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion;
- Rheoli prosiectau a chydweithredu mewnol ac allanol sy'n ymwneud ag Addysgu a Dysgu;
- Bod yn rheolwr llinell y cyrsiau dan y Cwricwlwm Addysgu a Dysgu a chyfrannu at gyflwyno.
Beth fydd ei angen arnochI fod yn llwyddiannus yn y rôl, bydd angen arnoch:
- Radd neu gymhwyster cyfwerth
- Cymhwyster Addysgu
- Profiad addysgu perthnasol
- Profiad diweddar/perthnasol o TEL
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
Yr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Mae'n debygol y bydd y gwaith o lunio rhestr fer yn cael ei gwblhau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 8fed Ebrill 2024. Os ydych yn llwyddiannus yn ystod llunio'r rhestr fer, mae'n debygol y bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn yr wythnos sy'n dechrau 24ain Ebrill 2024.
I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs/cyfarfod anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein