MANYLION
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Technegydd mewn Peirianneg Fodurol

Coleg Sir Gar
Technegydd mewn Peirianneg Fodurol
Department: Modurol

Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Peirianneg Fodurol, Gwyddor Anifeiliaid ac Astudiaethau Ceffylau

Compensation: £18,520 - £21,194 / blwyddyn
DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd, ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Yn benodol, staff sydd yn gallu datblygu ein cenhadaeth ymhellach: Bod yn Rhagorol - Y Coleg Dewisol. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol a dyfeisgar.

Mae Maes Cwricwlwm Peirianneg Fodurol, Gwyddor Anifeiliaid ac Astudiaethau Ceffylau, Celfyddydau Creadigol a Choginiol yn ffurfio rhan o Gyfadran Myrddin. Mae dysgwyr o fewn y Maes Cwricwlwm yn elwa ar ystod eang o weithgareddau allgyrsiol a system cymorth tiwtorial sefydledig. Caiff gwaith y dysgwyr ei arddangos yn rheolaidd mewn digwyddiadau yn y Coleg ac yn allanol.

Prif ddiben y swydd yw cynnal a pharatoi ardaloedd gwaith, offer, cerbydau a chyfarpar penodol o fewn yr adran fodurol i safon uchel a diogel.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ddarparu cefnogaeth a chymorth technegol ar gyfer gwaith dysgu ac addysgu o fewn eich maes, gan ymateb i anghenion myfyrwyr, staff academaidd a'r arweinydd (arweinwyr) cwrs perthnasol;
  • Cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel yn y gweithdai modurol, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch;
  • Paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs;
  • Cynnal a chadw, uwchraddio a gwasanaethu cyfarpar a cherbydau gan gynnwys ailadeiladu ac atgyweirio, yn ôl y bwriad, y gofyn neu ar gais;
  • Sicrhau bod cyfarpar cwrs, deunyddiau a stoc yn derbyn y gofal priodol a'u bod yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u cadw a'u diogelu, a bod offer a chyfarpar yn cael eu storio o'r neilltu ar ôl pob sesiwn;
  • Cadw stocrestr stordai ar gyfer nwyddau traul, cyfarpar ac adnoddau cyflwyno;
  • Mynd ati i archebu stoc yn unol â gweithdrefnau ariannol y coleg a diweddaru'r gronfa ddata archebu ar-lein;
  • Darparu gwasanaeth cyflenwi o'r stordai ar gyfer nwyddau traul y cwrs a gwasanaeth benthyca a dychwelyd ar gyfer yr holl gyfarpar adrannol ac eitemau cwrs eraill

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • O leiaf Cymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Cynnal ac Atgyweirio Cerbydau Modur
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • IOSH Rheoli'n Ddiogel (Os nad oes gennych gymhwyster IOSH, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Profiad diweddar a pherthnasol o'r maes/meysydd technegol dan sylw
  • Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol mewn Addysg Bellach ac Uwch
  • Bod yn gymwys wrth ddefnyddio'r peiriannau canlynol: Cyfarpar gweithdy modurol e.e. aliniwr pedair olwyn, cyfrifiaduron diagnostig
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein