MANYLION
  • Lleoliad: Vale of Glamorgan, Vale of Glamorgan, CF63 4RU
  • Testun: Swyddog Ieuenctid
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,228 - £24,228
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid

Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid

Cyngor Bro Morgannwg
Manylion Cyflog: £24,228 pro rata, JNC Pt12

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 25 awr yn cynnwys 2 - 3 noson yr wythnos yn rheolaidd, clybiau ar ôl ysgol, tripiau, digwyddiadau, gweithio ar benwythnosau’n achlysurol ac arosiadau preswyl.

Prif Weithle: Lleoliadau amrywiol ledled Bro Morgannwg
Swydd barhaol.

Disgrifiad:
Rydym yn wasanaeth a arweinir gan anghenion sy'n cynnig gwasanaeth ieuenctid amrywiol a hyblyg i bobl ifanc Bro Morgannwg drwy ymgynghori'n rheolaidd.

Darparu cynnig ieuenctid mynediad agored, amrywiol i'r bobl ifanc ledled Bro Morgannwg.

Gellir cynnal y sesiynau mewn lleoliadau amrywiol megis, clybiau ar ôl ysgol, clybiau ieuenctid dros dro, canolfannau ieuenctid, gwaith ieuenctid ar wahân/allgymorth/symudol, arosiadau preswyl, tripiau a digwyddiadau.

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar gynnig y cyfle i bobl ifanc wella eu dysgu anffurfiol mewn sesiynau sy’n seiliedig ar bynciau, cynyddu rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol, cyfle i gymryd rhan mewn cyfleoedd achrededig fel Unedau Agored Cymru a chymwysterau Dug Caeredin a chynyddu cyfranogiad pobl ifanc ym mhob agwedd ar waith ieuenctid.