MANYLION
  • Lleoliad: Glynllifon,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol Gofal Anifeiliaid

Grwp Llandrillo Menai
Mae'r adran Gofal Anifeiliaid wedi ei leoli yn Coleg Glynllifon. Mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau llawn amser lefel 1, 2 a 3 yn ogystal a grwpiau myfyrwyr ysgol. Bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i'r byd gwaith yn aml trwy weithio i cyflogwyr sydd yn cynnig profiadau i'r cyhoedd yn y diwydiant twristiaeth, mae hefyd cyfleoedd i ddatblygi i brentisiaethau mewn Nyrsio Milfeddyg gyda cyflogwr perthnasol.

Gydag arweiniad, fe fydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau y myfyrwyr trwy gynllunio gweithgareddau ymarferol. Bydd y rhain yn adeiladu mewn cymhlethdod yn ystod y tymor er mwyn adeiladau cymhwysedd y myfyrwyr fel eu bod yn cyrraedd gofynion y bwrdd arholi.

Mae'r adran yn hyfforddi myfyrwyr mewn agweddau gwahanol o ofal anifeiliaid yn cynnwys monitro iechyd, llety, bwydo amrywiaeth o rhywogaethau a hefyd hyfforddi a trin cŵn. Bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn cynorthwyo a chefnogi darlithwyr i tracio ac asesu cynnydd dysgwyr gan gynnig arweiniad a cefnogaeth os yn briodol.

Mae'n debygol y bydd Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol wedi ei amserlenni am hyd at 1000 pro rata o oriau cyswllt gyda dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd gyda lleiafswm o 500 awr pro rata yn goruchwylio dysgwyr mewn gweithdy.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/195/24

Cyflog
£12,539.99 - £13,379.60 y flwyddyn

Lleoliad Gwaith
  • Glynllifon

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.


Patrwm gweithio
Parhaol

18.5 awr yr wythnos (Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd)

36 wythnos y flwyddyn yn ystod tymor yn unig

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
08 Maw 2024
12:00 YH(Ganol dydd)