MANYLION
- Lleoliad: Gelligaer,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Pennaeth - Ysgol Gynradd Glyn-gaer
Disgrifiad swydd
Ysgol Gynradd Glyn-gaer
Pennaeth - GRŴP 2 YUY L15 – L21
I ddechrau ar 1 Medi 2024 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny (yn dilyn yr holl wiriadau diogelu a recriwtio)
Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau gan athrawon dynamig, profiadol sydd â chymwysterau addas ar gyfer swydd Pennaeth yr ysgol gynradd lwyddiannus hon. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer plant rhwng tair ac un ar ddeg oed.
Mae'r ysgol wedi'i lleoli mewn ardal wledig i'r gogledd o dref Caerffili, ac er ei bod hi'n mabwysiadu technoleg newydd ac yn deall yr angen am newid, mae ganddi'r un teimlad a chymeriad ag ysgol ‘bentref leol’. Mae'r ysgol yn cael ei chydnabod fel arloeswr mewn sawl maes ac yn aml mae gofyn iddi rannu arferion gorau yn y clwstwr a'r gymuned addysg ehangach, gan gadarnhau ei safle fel ysgol gadarn sy'n cael ei rhedeg yn dda.
Mae llywodraethwyr yn gweld hon fel her gyffrous i arweinydd brwdfrydig a medrus. Maen nhw'n awyddus i benodi rhywun sydd â'r canlynol:
Bydd y Llywodraethwyr yn darparu cymorth da i'r ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn dangos ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda nhw i ddarparu arweinyddiaeth o ansawdd uchel a'r addysg orau bosibl i blant.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 7 Mawrth 2024
Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio ar: 13 Mawrth 2024
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar: 21 Mawrth 2024
Am Ddisgrifiad Swydd manwl a Manyleb y Person, cliciwch ar y dogfennau ynghlwm.
Os hoffech chi, ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Dave Cook ar dave.cook@bt.com.
Croeso i chi gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy'n cael ei gyflwyno yn y Saesneg.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol fel tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os cewch chi unrhyw anhawster wrth wneud cais ar-lein, cysylltwch â GweRecriwtio@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal yn achos pob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

- Llwyddiant blaenorol o arferion ystafell ddosbarth rhagorol;
- Sgiliau arwain a rheoli rhagorol;
- Profiad da o ddarparu ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sylweddol;
- Gweledigaeth glir a disgwyliadau uchel ar gyfer gwella ysgolion;
- Sgiliau personol ac adeiladu tîm ardderchog;
- Dealltwriaeth dda iawn o’r cwricwlwm sgiliau a dysgu proffesiynol;
- Agwedd gadarnhaol iawn at arloesi a newid; ac
- Ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.