MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Morgan Llwyd

Pennaeth: Miss Catrin Pritchard

Cymhorthydd Lefel 2

Graddfa 04 pwynt 5-6

Yn ystod yr tymor yn unig

18 awr yr wythnos dros 3 diwrnod

£9,560 - £9,720

Swydd Barhaol

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Cymhorthydd Dysgu Lefel 2 i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.

Mae'r Corff Llywodraethol yn frwd dros addysg ac yn awyddus i barhau ar ein taith o welliant. Rydym yn chwilio am berson gweithredol a brwdfrydig sy'n rhannu'r weledigaeth:

Ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.

Bydd y rôl o fewn prif ffrwd yr ysgol ond bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Adnodd Dysgu (Camau). Fe fydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol trwy ddulliau dysgu cyfunol. Bydd disgwyl i chi ddarparu adborth manwl a rheolaidd ar gyflawniad, cynnydd ac ymddygiad.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Miss Rhian Owen.

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwewch yn dda a'i ddychwleyd at Miss Rhian Owen, Rheolwr Busnes, drwy e-bost owenr350@hwbcymru.net

Dyma hysbyseb am Gynorthwy-ydd Dysgu Lefel 2 lle mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)