MANYLION
  • Lleoliad: Eifionydd Secondary Language Centre, Porthmadog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £66,430 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £66,430 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.

Hysbyseb Swydd

Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd

L6 - L12

£57,304 - £66,430

A oes gennych chi'r gallu i arwain Cyfundrefn sydd yn gyfrifol am sicrhau addysg drochi o'r radd flaenaf i newydd-ddyfodiaid y sir?

A oes gennych chi'r profiad â'r weledigaeth i arwain Cyfundrefn fu'n arloesol yn y maes pan sefydlwyd y Ganolfan Iaith gyntaf yng Ngwynedd ddeugain mlynedd yn ôl, gan sicrhau y bydd y ddarpariaeth yn parhau i arloesi'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i'r dyfodol?

A ydych yn hyderus i arwain, arfogi a hyfforddi gweithlu ein hysgolion yn egwyddorion addysg drochi a'r Gymraeg yn fwy cyffredinol?

Dyma gyfle perffaith i arweinydd ac ymarferydd blaengar sy'n chwilio am her newydd a chyffrous i siapio darpariaeth cyfundrefn drochi Gwynedd ar ei newydd wedd. Bydd deilydd y swydd yn Bennaeth ar Gyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd sy'n hwb addysg arbenigol ac arloesol fydd yn cynnwys chwe safle wedi eu lleoli ar draws y sir sy'n derbyn newydd-ddyfodiaid (oedran bl2-Bl9) i bwrpas trochi. Bydd cyfle i'r deilydd osod cyfeiriad strategol i'r Gyfundrefn newydd, ynghyd â gosod sylfaen cadarn, cynllunio blaenoriaethau, gan anelu at ragoriaeth.

Byddwch yn arweinydd profiadol, medrus ac arloesol, sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, gyda'r gallu i arwain staff y Gyfundrefn Drochi i droi'r weledigaeth yn realiti. Mae'r her yn fawr ond yn un gyffrous, ac rydym am glywed gan unigolion talentog sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau dysgwyr y sir, ac i sicrhau bod Gwynedd mewn sefyllfa gref i ymateb i'r her o greu siaradwyr Cymraeg o'r newydd, ynghyd â chydweithio i gynnal ac atgyfnerthu'r Gymraeg ar draws ein cyfundrefn ysgolion.

Os ydych yn barod am her newydd, ac o'r farn eich bod yn cwrdd â gofynion angenrheidiol y swydd, yn hyderus eich bod yn cyflawni yn ddyddiol, ac y byddwch yn gallu gweithio ag arweinyddiaeth y Cyngor a'r Adran i greu strategaeth a darpariaeth addysg drochi glir a chyffrous, yna byddwn yn croesawu'ch cais. Byddwn hefyd yn barod i ystyried secondiad ar gyfer yr ymgeiswyr addas.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y manylion person.

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg ar 01286 679958 neu Rhys Glyn, Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd ar 01766 515573

Dyddiad Cau: 15/01/2025

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Gwerthfawrogi pwysigrwydd canolog y dysgwr mewn addysg.

Dangos uchelgais ar gyfer plant a phobl ifanc a'r penderfyniad i wella eu

canlyniadau.

Profiad arweinyddiaeth ar lefel UDRh mewn sefydliad addysgol.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Gradd neu gyfwerth mewn maes addas, e.e. Cymraeg, Addysg.

Statws Athro Cymwysedig ac wedi cofrestru efo'r CGA.

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Dymunol
-
Profiad perthnasolHanfodol
Brwdfrydig dros Y Gymraeg ac arddangos tystiolaeth o roi hynny ar waith.

Profiad o addysgu Cymraeg.

Profiad llwyddiannus yn y sector addysg gyda hanes clir o wella deilliannau a

chanlyniadau i ddysgwyr.

Profiad o arwain yn llwyddiannus mewn rôl strategol.

Profiad o adrodd yn strategol ar berfformiad.

Profiad o reoli newid ac o arwain staff drwy newid.

Profiad o ddefnyddio data i lywio dysgu.

Profiad o ddefnyddio technolegau newydd.

Dangos tystiolaeth o allu rheoli a chynnal newid ar gyfer gwelliant gan gyflawni

hynny'n fedrus.

Gallu deall, dadansoddi, arfarnu a sicrhau y caiff egwyddorion ac arfer

systemau sicrwydd ansawdd eu gweithredu, yn cynnwys hunan arfarnu a rheoli

perfformiad ysgol.

Profiad o gyflwyno adroddiadau i grwpiau strategol.
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau deddfwriaeth a fframweithiau

addysgol cyfredol.
Dymunol
-
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad

Lleoliad : Canolfan Iaith Uwchradd Eifionydd LL49 9HS

Pwrpas y Swydd.

• Hyrwyddo cyflawniad a lles plant a phobl ifanc Gwynedd i gaffael y Gymraeg
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Arwain y maes addysg drochi yng Ngwynedd sy'n rhoi'r dysgwr yn ganolog gan anelu at ragoriaeth.
• Arwain ar y Gymraeg yng Nghynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg
• Arwain,darparu a bod yn rhan greiddiol o ddatblygu strategaethau ar gyfer datblygu polisi o fewn yr Adran Addysg.
• Arwain ar gynllunio darpariaeth addysg drochi gyfoes sy'n addas i bwrpas ar gyfer 2032 a thu hwnt sy'n adlewyrchu gofynion y dysgwyr a'r cwricwlwm ynghŷd â datblygiadau cenedlaethol.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb rheolaeth llinell ar nifer o swyddi.
• Cyfrifoldeb am y Gyfundrefn Drochi ar chwe safle ar draws y sir.
• Cyfrifoldeb dros gyllideb.
• Cyfrifoldeb am ymgeisio, gweinyddu ac adrodd ar grantiau Llywodraeth Cymru ym maes Trochi.

Prif Ddyletswyddau.
Disgwylir i Bennaeth y Gyfundrefn Addysg Drochi gyflawni'r swydd trwy gyfeirio'n uniongyrchol at y Deddfau Addysg, Rheoliadau, Codau Ymarfer a'r ddeddfwriaeth cysylltiedig sy'n ymwneud â'r swydd.

Mae'n swydd heriol, ble mae angen lefelau uchel o sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu ac arweinyddiaeth, a ddiffinnir gan Safonau Cenedlaethol a chyda cyfrifoldebau rheolaethol a strategol ar lefel ardal a gwasanaeth cyfan o fewn Gwynedd fel y pennir gan y Pennaeth Addysg.

Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i'r pennaeth:
• allu perthnasu'n dda ag eraill;
• dangos y gallu i ddylanwadu ar a dwyn perswâd ar eraill i weithredu, a hefyd dangos sgiliau hyrwyddo ar lefel uchel, a hynny'n aml o dan amgylchiadau heriol.
• arddangos y safonau sydd eu hangen i reoli a chefnogi'r unigolion a'r timau er mwyn cyflawni amcanion cyffredinol y Gwasanaeth Addysg yng Ngwynedd.

Dyletswyddau Arweinyddiaeth:
• Arwain ar Gynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg yng Ngwynedd.
• Arwain ym maes Addysg Drochi yng Ngwynedd sy' Arwain, darparu a bod yn rhan greiddiol o ddatblygu strategaethau a chefnogaeth ar gyfer datblygu polisi.
•r cwricwlwm.
• Meithrin perthynas waith gadarn a chyd-ddealltwriaeth glir gyda holl ysgolion y sir mewn perthynas â throchi ieithyddol.
• Arwain UDRh wrth lunio Cynllun Datblygu'r Gyfundrefn Addysg Drochi, a'i werthuso yn flynyddol.

• Prif Ddyletswyddau. .

• Cynllunio, gweithredu ac adrodd ar berfformiad yn erbyn gofynion y CSGA sirol i brif swyddogion addysg y sir, Llywodraeth Cymru, ac Aelodau Etholedig drwy'r Fforwm Iaith Addysg.
• Arwain ac ysgogi staff a dysgwyr i gyflawni ar y lefelau uchaf.
• Arwain staff y Gyfundrefn i ymgyfarwyddo â Fframwaith Arolygu Addysg Drochi Estyn a pharatoi ar gyfer Arolygiad.
• Cydweithio hefo Swyddogion Menter Iaith Gwynedd i gyflawni blaenoriaethau ar y cyd.
• Cydweithio hefo asiantaethau amrywiol i hyrwyddo blaenoriaethau'r Gymraeg yng Ngwynedd.
• Cynrychioli Gwynedd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn y maes Gymraeg a Throchi.
• Sicrhau bod y gyfundrefn drochi newydd yn arwain yn y maes trochi gan ddod yn sefydliad dylanwadol o
bwys yn lleol ac yn genedlaethol.

Dyletswyddau Rheolaethol:
• Sicrhau trefniadau diogelu effeithiol o fewn y Gyfundrefn Addysg Drochi ar y 6 safle.
• Gosod a gweithredu trefn Rheoli Perfformiad/Gwerthuso Parhaus effeithiol a chynllunio cyfundrefn sy'n rhoi bri ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ymysg staff.
• Sicrhau trefn mynediad a chofrestru addas ac effeithiol ar gyfer y newydd-ddyfodiaid i'r Gyfundrefn
Drochi.
• Gosod amserlen y chwe safle addysg drochi yn dymhorol.
• Gosod gweithdrefnau Hunan Arfarnu o ansawdd
• Sicrhau trefniadau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol gyda dysgwyr, rhieni/gofalwyr a phenaethiaid
ysgolion gan sicrhau atebolrwydd llawn.
• Herio tanberfformiad staff (gyda chefnogaeth Swyddog Addysg) a dysgwyr (gyda chydweithrediad staff
yr unedau) ar bob lefel gan sicrhau ymyrraeth a dilyniant priodol.
• Sicrhau defnydd effeithlon o gyllideb y Gyfundrefn a gwerth am arian.

Cefnogi Dysgu ac Addysgu:
• Gweithredu trefniadau diogelu effeithiol ar draw y Gyfundrefn Addysg Drochi
• Sicrhau cynnig cwricwlaidd o'r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu, cefndir a diddordebau'r unigolion.
• Sicrhau man gwaith deniadol a phleserus i'r plant a'r staff ar draw y chwe uned drochi yn y sir.
• Sicrhau a monitro cynlluniau rhaglenni gwaith cyfredol ynghyd â gwersi effeithiol
• Sicrhau bod y deunyddiau dysgu ac addysgu o safon uchel ar gyfer y gwersi a ddysgir.
• Sicrhau bod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas ar gael i'r dysgwyr yn yr unedau trochi.
• Sicrhau bod strategaethau ymddygiad cadarnhaol yn weithredol ymhob uned a neb yn amharu ar y cwrs i weddill y garfan
• Sicrhau fod y staff yn frwdfrydig ac yn gosod heriau a chefnogaeth i ymestyn pob dysgwr hyd eithaf ei allu.
• Monitro cynnydd pob dysgwr o'u man cychwyn ac adrodd ar hynny i drefn Herio Perfformiad y Cyngor.
• Dealltwriaeth lawn o ofynion y cwricwlwm cynradd ac uwchradd, gan briodoli hynny i gynlluniau
gweithredol yr unedau.
• Sicrhau gweithredu rhaglenni dilynol/ôl ofal effeithiol.
• Cydlynu dychweliad y disgyblion i'r ysgolion prif-lif a chynnig arweiniad i'r staff.
• Sicrhau trefniadau addas ar gyfer goruchwylio plant yr unedau Trochi yn ystod amser egwyl ac amser cinio yn yr unedau trochi.
• Sicrhau bod polisïau perthnasol Rheolwyr safle sy'n lletya'r chwe uned drochi yn cael eu dilyn (e.e. diogelwch).
• Cydweithio a chyfathrebu'n gyson hefo penaethiaid ysgolion sy'r unedau i rannu gwybodaeth a sicrhau dealltwriaeth o drefniadau rheolaethol tymhorol yr ysgolion e.e. dyddiau hms, ymarferion tân, trefniadau tywydd garw ayyb.
• Amserlenu a gweithredu cylch hunan-arfarniad o waith y Gyfundrefn Drochi er mwyn adnabod blaenoriaethau gwella ar gyfer Cynllun Busnes/Cynllun Datblygu sefydliadol mewn ymgynghoriad â' Tracio cynnydd y dysgwyr ac addasu'r ddarpariaeth yn unol â'r gofyn drwy gynnig mwy o her, neu
gefnogaeth ychwanegol.
• Unrhyw ofynion rhesymol eraill ar gais y rheolwr llinell.

Dyletswyddau Corfforaethol:
• Arwain ar un o brif feysydd blaenoriaeth yr Adran Addysg a'r Cyngor i gynnal y gyfundrefn addysg drochi yng Ngwynedd i'r dyfodol, yn unol â gweledigaeth Cabinet y Cyngor.
• Cyflwyno adroddiadau a chyfrannu at drafodaethau ar y Gymraeg a'r gyfundrefn addysg drochi a throchi iaith yn fwy cyffredinol gerbron y Cabinet, Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, Tîm Rheoli Addysg, Herio Perfformiad ayyb.
• Gweithio o fewn yr Adran Addysg fel arweinydd maes addysg drochi yn sirol, gan arwain y maes ar ran yr
Adran Addysg yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
• Arwain Tîm y Gymraeg o fewn yr Adran Addysg a chyfeirio gwaith Cydlynydd Siarter Iaith Gwynedd a Môn, Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd, ynghyd agarwain a chydlynu gwaith y Cyd-gysylltwyr Iaith a Chydlynwyr Iaith Uwchradd.
• Arwain a chyfrannu at drafodaethau a chynlluniau cenedlaethol ym maes Categoreiddio ysgolion yng nghyd destun darpariaeth Gymraeg ac hefyd ym maes addysg drochi mewn cydweithrediad gyda Llywodraeth Cymru.
• Pwynt cyswllt uniongyrchol gyda gweision sifil Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am drochi iaith a'r
Gymraeg.
• Cefnogi ysgolion trosiannol 3T(dwy Uwchradd ac un Gynradd) ar eu taith i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg dros dreigl amser.
• Arwain a gweithredu trefniadau cynlluniau busnes yr Adran Addysg ar gyfer y gyfundrefn addysg drochi
yng Ngwynedd, gan adnabod blaenoriaethau gwella i'w cyflawni'n flynyddol, gan adrodd arnynt yn fisol
ac yn chwarterol yn unol â threfniadau herio perfformiad y Cyngor.

Dyletswyddau eraill:
• Cyfrannu tuag at y gwaith o hyfforddi athrawon a chymorthyddion ysgolion prif lif yn ôl y galw, unai drwy
sesiynau hyfforddiant ffurfiol/TEAMS neu yn ymarferol ar lawr dosbarth.
• Cymryd cyfrifoldeb dros hunan ddatblygiad a dysgu proffesiynol parhaus personol.
• Mae gofynion y swydd hon i'w chyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon
Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno. Mae'r
swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr
Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
• Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol pennaeth y gyfundrefn hon gael eu cyflawni yn unol â darpariaethau'r
Deddfau Addysg, Gorchmynion a Rheoliadau sy'n weithredol dan y Deddfau Addysg, offeryn
llywodraethu'r gyfundrefn, unrhyw ddogfen ymddiriedolaeth sy'n berthnasol i'r gyfundrefn ac unrhyw
gynllun sy'n cael ei baratoi neu ei gynnal gan Yr Awdurdod Lleol dan Adran 48 Deddf Safonau a
Fframwaith Ysgolion 1998 (87).
• Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth'. Dylid hybu nodweddion,
gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u
hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• -

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi