MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Foelgron, Mynytho,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3 (13 awr) a Lefel 2 (19.5 awr) Ysgol Foelgron, Mynytho

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG
YSGOLION CYNRADD

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 3 (13 AWR) A LEFEL 2 (19.5 AWR)

YSGOL FOEL GRON, MYNYTHO
(Cynradd 3 - 11 oed: 28 o ddisgyblion)

Ysgol Gynradd Wirfoddol dan Reolaeth yr Eglwys yng Nghymru

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7-11 Lefel 3 (sef £7,739 - £8248 y flwyddyn) a Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 Lefel 2 (sef £11,248 - £11,426 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 a 3.

Yn eisiau: 6 Ionawr 2025

Oriau gwaith: 13 awr yr wythnos fel Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3 a 19.5 awr yr wythnos fel Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 (39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant mewn swydd)

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profiad o faes anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol ac anawsterau emosiynol ac ymddygiadol yn benodol o fantais, ond nid yw hyn yn amod ar gyfer ymgeisio.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Kelly Jones. Rhif Ffôn 01758 740567 e-bost:
kelly.jones@foelgron.ysgoliongwynedd.cymru

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Nia Pattinson, Swyddog Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704111 e-bost: NiaLloydPattinson@gwynedd.llyw.cymru

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr ysgol.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma, Dydd Iau, 5 Rhagfyr 2024.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 29 TACHWEDD 2024.

(This is an advertisement for a Learning Support Assistant Level 3 (13 hours) and Level 2 (19.5 hours) at Ysgol Foel Gron, Mynytho for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

SAFONAU PROFFESIYNOL CCD.pdf

Manylion Person

Lefel 3

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.

• Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm

• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau

• Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.

• Parodrwydd i ddysgu'n barhaus

• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

• Sgiliau rhifedd/llythrennedd, cyfwerth a lefel 2 o'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol.

• NVQ lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion addysg neu gymhwyster cyfwerth.

• Hyfforddiant yn y strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd neu feysydd clyw penodol, iaith arwyddo, dyslecsia, TGaCh, Mathemateg a Saesneg.

• Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.

• Hyfforddiant Amddiffyn Plant

DYMUNOL

• Hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - Rhaglen Cymorthyddion wrth eu gwaith.

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

• Profiad o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant o'r oedran priodol.

• Profiad o ddefnyddio ystod o strategaethau i ddelio gydag ymddygiad dosbarth yn ei gyfanrwydd a hefyd anghenion ymddygiad unigol.

• Profiad o weithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

• Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.

• Gallu i gyfathrebu'n effeithiol, yn llafar ac yn ysgrifenedig, gyda chynulleidfa eang.

• Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau /côd ymarfer perthnasol a deddfwriaeth berthnasol.

• Dealltwriaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch

• Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.

• Gwybodaeth weithio o'r cyfnod sylfaenol, cwricwlwm cenedlaethol, llwybrau 14-19, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo'n briodol.

• Deall egwyddorion datblygiad a phrosesau dysg plentyn.

• Bod â'r sgiliau angenrheidiol i reoli gweithgareddau dosbarth a'r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.

• Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu yn weithredol.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd

Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Lefel 2

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

•m.

• Brwdfrydig a hyblyg

• Personoliaeth Ddigynnwrf

• Sgiliau rhif/llythrennedd da.

• NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, neu yn fodlon ymgymryd âr cwrs yn dilyn penodiad.

DYMUNOL

• Wedi dilyn hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - 'Rhaglen Ymsefydlu'

• Hyfforddiant cymorth cyntaf

• Hyfforddiant Amddiffyn Plant

• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd/ rhifedd

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

• Gweithio gyda phlant o'r oedran priodol neu ofalu amdanynt.

Profiad o weithio gyda grwpiau bychain o blant

• Profiad o waith cynorthwyo mewn dosbarth

• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol

Deunydd effeithlon o TGaCh

• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da

• Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas dda gyda eraill.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad -r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwyddi'r maes gwaith. (Bydd angen gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad

Lefel 3

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Gweithio o dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol o fewn cyfundrefn gytøn o oruchwyliaeth.

• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen cefnogaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.

• Yn achlysurol, goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes, e.e. diwrnod cyntaf salwch athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o'r fath fydd cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd a chynnal trefn.

• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc,ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn

Prif Ddyletswyddau. Gweithio gyda'r athro/athrawes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo'n briodol, gan sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu

• Arwain gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu cytøn, a'u haddasu yn ôl ymateb disgyblion.

• Defnyddio sgiliau arbenigol i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion.

• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.

• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol âr gweithdrefnau polisïau'r AALL ac ysgolion.

• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu cynlluniau amrywiol.

•r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.

•r athro/athrawes a disgyblion i greu arddangosfeydd.

• Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.

• Cynhyrchu deunyddiau dysgu ar gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.

• Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.

• Darparu adborth llafar ac ysgrifenedig i'r athro/athrawes ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.

•r athro/athrawes i ddatblygu a gweithredu gweithdrefnau asesu risg perthnasol.

• Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda'r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.

• Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.

• Sefydlu perthynas waith effeithiol gyda disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.

• Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.

• Paratoi offer ac adnoddau cyffredinol a'u cynnal a'u cadw.

• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i, gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.

• Mynychu cyfarfodydd proffesiynol a chyfrannu iddynt fel bo'r angen.

• Rhannu ymarfer da a staff eraill a hyfforddi a chefnogi yn nol y gofyn.
• Goruchwylio a chefnogi gweithgareddau dysgu tu allan i oriau ysgol.

• Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel bo'r gofyn.

• Cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.

Cefnogaeth i ddisgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes
• Cofrestru a chofnodi presenoldeb disgyblion mewn gwersi.

• Cyfarwyddo disgyblion ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes, a creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athro dosbarth.

• Darparu'r adnoddau angenrheidiol i'r disgyblion ar gyfer eu dysgu.

• Sicrhau bod y disgyblion yn mynd i mewn i'r dosbarthiadau ac yn dod allan ohonynt yn drefnus.

• Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.

• Rheoli adnoddau'n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau'n daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.

• Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a'i ddychwelyd i'r athro/athrawes briodol.

• Cysylltu âr athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.

Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol â safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chais y Rheolwr.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol âr cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.

Lefel 2

Pwrpas y Swydd.

• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol.

• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.

• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn

Prif Ddyletswyddau. Goruchwylio a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.

• Gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol-r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.

• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.

• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.

• Sefydlu perthynas dda gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.

• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.

• Gosod disgwyliadau uchel a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.

• Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion.

• Cydweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol.

• Cynorthwyo i glirio'r dosbarth a chynorthwyo gydag arddangos gwaith y disgyblion.

• Sicrhau adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes, gan adrodd ar ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, cynnydd, a lles disgyblion

• Hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.

• Cefnogi strategaethau dysgu amrywiol dan arweiniad athro/athrawes.

• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd âr cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.

• Cysylltu'n broffesiynol â rhieni, gofalwyr dan arweiniad yr athro/athrawes.

• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.

•n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.

• Mynychu cyfarfodydd perthnasol.

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.

•r Cyngor Gweithlu Addysg.

Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.

•r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi