MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, All Wales, CF31 3SU
  • Testun: Cydlynydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2024 3:00 y.p

This job application date has now expired.

Cydlynydd Safonau Diogel i Weithredu a Gwaith Ieuenctid – Cydweithredu Heddluoedd Cymru

Heddlu de Cymru
Cydweithredu Heddluoedd Cymru a'r Tîm Dinasyddion ym maes Plismona

Rydym yn dîm ymrwymedig sy'n gweithio ar draws prosiectau mewn heddluoedd yng Nghymru er mwyn helpu i sicrhau cydweithrediad. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys meysydd fel cynaliadwyedd, digidol, gwaith fforensig, Dinasyddion ym maes Plismona, a mwy!
Mae'r Rhaglen Dinasyddion ym maes Plismona yn rhaglen fach a gyflwynir yn ardaloedd Heddlu De Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys, er mwyn gwella profiadau plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n gwirfoddoli. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni i gadetiaid, ymgysylltu â phobl ifanc a'r cwnstabliaethau gwirfoddol.
Rydym yn gweithio'n bennaf o swyddfa ger Pen-y-bont ar Ogwr neu gartref.
Rydym yn gweithio 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener ond weithiau byddwn yn cefnogi gweithgarwch ar y penwythnos.
Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:

Bydd deiliad y swydd yn datblygu fframwaith ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc sy'n ymgysylltu â'r heddlu'n wirfoddol, yn unol â'r safonau Diogel i Weithredu cenedlaethol.
Bydd dogfennaeth newydd, gan gynnwys canllawiau, yn cael ei datblygu i gydweithwyr ar lefel weithredol a Swyddogion Cyfrifol Dynodedig ar gyfer diogelu.
Bydd arwain newid a chyflawni safonau uchel yn allweddol.
Diweddaru dogfennau prosiectau megis cofrestrau risg, cofnodion gwersi ac olrheinwyr budd.
Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad sylweddol mewn lleoliad gwaith ieuenctid neu rôl lle roedd diogelu yn ofynnol. Mae sgiliau trefnu a chyfathrebu eithriadol gyda lefel uchel o hunangymhelliant a brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth yn bwysig. Byddwch yn gweithio â chydweithwyr mewn asiantaethau plismona ac asiantaethau partner. Bydd angen teithio y tu allan i ardal De Cymru o bryd i'w gilydd.