MANYLION
  • Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4 (SDL)

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym am recriwtio Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4 SDL i ymuno â'n Gwasanaeth ar gytundeb llawn amser, cyfnod penodedig, am flwyddyn (adeg tymor yn unig).

Am y rôl

O ddydd i ddydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn g weithio gyda, a chefnogi ffoaduriaid a dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) ar draws ysgolion Ceredigion i gefnogi eu lles a datblygu eu sgiliau ieithyddol er mwyn iddynt gael mynediad llawn i'r cwricwlwm. Byddant yn defnyddio'u profiad a'u gwybodaeth arbenigol i gefnogi staff ysgolion yn llwyddiannus drwy eu huwch-sgilio a chynnig cymorth iddynt. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr ac yn trefnu a rheoli adnoddau dysgu priodol. Byddant yn cynllunio gweithgareddau dysgu ac addysgu pwrpasol i gwrdd ag anghenion ysgolion a'u dysgwyr yn effeithiol.

Ein hymgeisydd delfrydol

Rydym am recriwtio unigolyn sy'n:
  • Meddu ar wybodaeth weithredol o gwricwlwm y maes hwn, gan gynnwys polisïau, codau ymarfer a deddfwriaeth berthnasol
  • Meddu ar wybodaeth gadarn a phrofiad helaeth o gefnogi ffoaduriaid a dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol, gan weithredu rhaglenni/strategaethau dysgu perthnasol i gefnogi eu lles a datblygu eu sgiliau iaith
  • Meddu ar ddealltwriaeth o'r fframweithiau statudol sy'n ymwneud ag addysgu
  • Meddu ar ddealltwriaeth dda o ddatblygiad a phrosesau dysgu'r plentyn
  • Gwella arfer/gwybodaeth ei hunain yn gyson drwy hunanwerthuso a dysgu gan eraill
  • Defnyddio TGCh ynghyd â chyfarpar ac adnoddau arbenigol yn effeithiol i gynorthwyo'r dysgu
  • Cyd-dynnu'n dda â phlant ac oedolion
  • Gweithio'n adeiladol a hyblyg fel rhan o dîm, deall cyfrifoldebau a swyddogaethau'r ystafell ddosbarth a'i safle personol o fewn y swyddogaethau hynny
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n ceisio secondiad. Argymhellir gofyn am ganiatâd rheolwr llinell cyn gwneud cais i sicrhau y gallwch ddychwelyd i'ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Elen Davies drwy e-bost elen.gwenllian.davies@ceredigion.gov.uk neu ar 07970 000479

Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Mawrth, 12fed o Fawrth, 2024.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy