MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Arweinydd Gofal Plant

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Arweinydd Gofal Plant
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Arweinydd Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 32 oriau
Math o gontract: Cyfnod Penodol Tan 31ain Mawrth 2025
Lleoliad: Swyddfa

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £20,872 - £25,490 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae cyfle newydd cyffrous wedi codi o fewn ein gwasanaeth gofal plant bywiog o ansawdd uchel, Dechrau’n Deg, ar gyfer Arweinydd Gofal Plant newydd. Bydd y swydd yn gontract 32 awr am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025 gyda'r potensial i'w estyn yn amodol ar gyllid parhaus Dechrau'n Deg.

Mae angen i ni lenwi'r swydd hon cyn gynted â phosibl i gadw at ganllawiau Dechrau'n Deg, Rheoliadau Gofal Plant a Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd oruchwylio gweithrediad dyddiol lleoliad gofal plant a rheoli tîm o staff gofal plant. Bydd yr Arweinydd wedi’i leoli’n bennaf yn un o’n lleoliadau ni, fodd bynnag, oherwydd natur y gwasanaeth, efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd gynorthwyo lleoliadau Dechrau’n Deg eraill, sydd wedi’u lleoli ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae'r Arweinydd Gofal Plant yn gyfrifol am reoli tîm gofal plant er mwyn cyflwyno darpariaeth o ansawdd uchel; cynorthwyo ac annog ymgysylltiad rhieni/gofalwyr a phlant; monitro a gwerthuso cyfraddau presenoldeb a defnydd; sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ofynion a safonau deddfwriaethol ar gyfer darpariaeth gofal plant cofrestredig; sicrhau amgylchedd cynhwysol a pharchus; cynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol a datblygol, a gweithio gyda phartneriaid amlasiantaeth i gyflwyno'r rhaglen yn ddi-dor. Bydd yr Arweinydd yn cael ei gynnwys yn y cymarebau staffio.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Cymhwyster Lefel 5 mewn Dysgu a Datblygiad Gofal Plant (CC L5) a chymhwyster Diploma Lefel 3 CACHE Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant neu gymhwyster perthnasol tebyg gyda 2 flynedd o brofiad ôl-gymhwyso.
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig
  • Profiad o reoli darpariaeth gofal plant

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Fiona Sanos ar 07810438505 neu ebost: santof@caerphilly.gov.uk.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.