MANYLION
- Lleoliad: Ial,
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Mawrth, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad 'Rhagorol' yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Anogwr Cynnydd
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol (diwedd mis Rhagfyr 2024)
Cyflog: £24,590 - £28,477 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Anogwr Cynnydd i ymuno â'n tîm.
Fel Anogwr Cynnydd yng Ngholeg Cambria byddwch chi'n cydweithio gyda thîm o Anogwyr Cynnydd, y tîm cwricwlwm ehangach a gwasanaethau cymorth y coleg i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael y profiad dysgu gorau posibl. Bydd y swydd yn cynorthwyo grwpiau o ddysgwyr yn ystod eu sesiynau cynnydd wythnosol ar yr amserlen a thu hwnt.
Byddwch chi'n gweithio gyda grŵp o ddysgwyr i'w helpu nhw i feithrin strategaethau priodol fel y gallant barhau i gymryd rhan mewn dysgu, a'u helpu i ddod yn wydn, yn ddyfeisgar, a'u bod yn datblygu awydd i lwyddo ac am ddilyniant.
Bydd Anogwyr Cynnydd yng Ngholeg Cambria, ynghyd â'r tîm cwricwlwm ehangach, yn monitro presenoldeb, gosod targedau, cysylltu â rhieni a gofalwyr a gweithredu fel eiriolwr y dysgwyr wrth ddelio ag asiantaethau mewnol ac allanol. Byddwch chi hefyd yn cefnogi eu llesiant, yn hybu iechyd meddwl cadarnhaol, ac yn eu helpu i wneud y dewisiadau bywyd cywir.
Os ydych chi'n angerddol ynghylch trawsnewid bywydau pobl ifanc, nad ydyn nhw efallai wedi cael y profiad gorau mewn dysgu neu fywyd, yna hoffem gael clywed gennych chi.
Gofynion Hanfodol
Mae'r Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig

- Wedi cael addysg hyd at lefel gradd neu Lefel 3 (ar gyfer pynciau a nodwyd) mewn maes pwnc perthnasol
- Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn Lefel 2 neu uwch.
- Byddwch chi'n gallu defnyddio rhaglenni MS Office ac yn ddelfrydol rhaglenni Google a defnyddio'r rhyngrwyd.
- Bydd disgwyl i chi ddangos brwdfrydedd dros rymuso a galluogi pobl ifanc.
- Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, eich bod yn aelod cadarn o dîm a'ch bod yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu.
- Deall ystod anghenion dysgwyr mewn lleoliad addysg
- Gallu dangos profiad o annog a mentora dysgwyr / pobl ifanc.