MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £47,340 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Arweinydd Pwnc Daearyddiaeth, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £47,340 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gyntaf a phosib

Arweinydd Pwnc Daeraryddiaeth

Parhaol - Llawn Amser

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) yn ôl profiad a chymhwyster, ynghyd a lwfans CAD2b o £5,447 y flwyddyn i'r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Clive Thomas.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno i'r Pennaeth, Mr Clive Thomas, Ysgol Syr Hugh Owen, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW. Rhif ffôn: 01286 673076; e-bost: pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD IAU, 24 O HYDREF, 2024.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd:
Arwain y pwnc a dysgu disgyblion yr holl ystod gallu ac oedran.
Cyfrifoldebau Arweinydd Pwnc:
Mae'r Arweinydd Pwnc yn gyfrifol am ddarparu cyfle am brofiadau dysgu llawn ar gyfer pob disgybl.
Mae angen i bob Arweinydd Pwnc:-
•I godi safonau cyrhaeddiad a chyflawniad y disgybl yn y maes cwricwlaidd.
•I fod yn atebol am:
oArwain a rheoli datblygiadau cwricwlaidd gan hyrwyddo ymarferion dysgu eraill.
oMonitro a chefnogi cynnydd disgyblion.
oRheoli a threfnu athrawon, cymorthyddion, adnoddau cyllidol a meintiol i gefnogi'r proffil cwricwlaidd
oAteb gofynion y disgyblion o fewn amcanion a nodau'r ysgol sy'n cynnwys cynlluniau strategol.
•Gweithredu cynlluniau ansawdd yr ysgol.
Cwricwlwm
Cynllunio, Datblygu a Hunan Arfarnu
•Ffurfio amcanion cyffredinol a phenodol mewn cydweithrediad a staff yr adran.
•I fod yn atebol am ddatblygiadau a throsglwyddiadau'r maes cwricwlaidd.
•I arwain datblygiadau'r cwricwlwm sy'n glwm a chynlluniau gwaith, adnoddau asesu a marcio, strategaethau dysgu ag addysgu'r adran gan sicrhau eu bod yn berthnasol i
anghenion y disgyblion ar draws yr ystod gallu.
•I arwain, rheoli a gweithredu Cynllun Datblygu Adran drwy osod targedau heriol sy'n sicrhau safonau uchel o fewn y pwnc.
•I sicrhau fod y sgiliau allweddol yn rhan hanfodol o'r broses dysgu.
•Cyd-weithio gyda'r UDRh i sicrhau fod y rhaglen dysgu o ansawdd a chost effeithiol uchel ac yn ateb gofynion Cynllun Datblygu'r Ysgol.
•Darparu yn effeithiol ar gyfer disgyblion ADY.
Asesu a Chynnydd
•Sicrhau fod asesiadau'r disgyblion ar gyfer y byrddau arholiad allanol yn digwydd.
•Monitro cynnydd holl ddisgyblion yr adran, sydd yn cynnwys Mentora Pendant.
•Monitro ac ymateb i ddatblygiadau cwricwlaidd ar lefel cenedlaethol, sirol a lleol.
•Parhau i achredu cyrsiau addas ar gyfer y disgyblion drwy'r byrddau arholi a chyrff dilysu
•I adolygu, addasu a gweithredu trefniadau asesu i gefnogi gwelliant o fewn disgwyliadau polisi asesu'r ysgol.
Y Rôl Ansawdd Rheolaeth
•I sicrhau system ansawdd effeithiol sy'n edrych / gweithredu datblygiad a gwelliant parhaus
•Paratoi Cynllun Datblygu Adran yn flynyddol sy'n seiliedig ar gasgliadau hunan arfarnu a Cynllun Datblygu'r Ysgol
•Datblygu dulliau dysgu ag addysgu effeithiol o fewn fframwaith cyffredin.
•I fonitro effeithiolrwydd dydd i ddydd y broses dysgu ag addysgu.
•Gosod targedau heriol ar gyfer y disgyblion yr adran / maes cwricwlaidd.
•Cyfrannu i drefn yr ysgol gydag ymweliadau dosbarth.
•I ddilyn y drefn hunan arfarnu o fewn canllawiau'r ysgol
•Defnyddio dadansoddi data, arfarniad perfformiad a meincnodau ar gyfer gwelliant.
•Paratoi adroddiad ar berfformiad arholiadau, defnyddio data gwerth ychwanegol gan
nodi casgliadau ar gyfer gwelliant.
•Rheoli'r casglu ac uwchraddio o ddata cywir yr adran ar gyfer y system ganolog SIMS.
•Paratoi gwybodaeth berthnasol ar gyfer y Corff Llywodraethol.
Adnoddau
Staffio
•I adnabod anghenion datblygiad proffesiynol a chyd-weithredu gyda'r UDRh i'w weithredu
•I gyflwyno gwaith i athrawon cyflenwi yn lle athrawon ar gyfnodau salwch.
•I weithredu'r broses Adolygiadau Rheoli Perfformiad ar gyfer grŵp o athrawon.
•I gymryd rhan yn y broses apwyntio staff a pharatoi rhaglen anwytho ar gyfer staff newydd.
•Cefnogi pob aelod o'r adran lle mae'r angen.
Cefnogaeth
•Sicrhau trefniadau effeithiol/effeithlon o gymorthyddion dosbarth.
•Cefnogi eich cyd-weithwyr fel aelod o dîm.
•Paratoi geirda ar gais y staff.
Cyfathrebu
•Paratoi ac adolygu llawlyfr yr Adran o fewn y broses hunan arfarnu.
•Cyfathrebu yn effeithiol a chydweithio gyda staff a rhieni.
•Defnyddio cyfarfodydd adran i godi safonau a darparu casgliadau ysgrifenedig ar gyfer yr UDRh.
•Cefnogaeth lawn i athrawon ANG a myfyrwyr dan hyfforddiant.
•Hyrwyddo cysylltiadau pynciol effeithiol gyda'r Sector Cynradd ac asiantaethau allanol eraill, (lle mae'r angen).
•Cyd-weithio gydag adrannau eraill wrth gyflwyno'r sgiliau allweddol, a prosiectau traws ysgol.
Adnoddau Dysgu
•r staff, cyllid ac adnoddau ystafelloedd.
•Creu cyllideb adran a helpu'r broses o archebu a rhannu offer ac adnoddau.
•Rhoi cymorth i'r UDRh i rannu'r adnoddau ar gyfer dysgu ac addysgu yn effeithiol ac effeithlon mewn amserlen gytbwys.
Bugeiliol
•I fonitro a chefnogi cynnydd a datblygiad cyffredinol y disgyblion sy yn yr adran.
•Codi pryderon presenoldeb rhai disgyblion efo'r Pennaeth Blwyddyn / UDRh
•Gosod targedau perthnasol a monitro cynnydd disgyblion yn rheolaidd gan ddefnyddio data ysgol ganolog sydd yn cynnwys Mentora Pendant.
•Ymateb i broblemau gyda gwaith cartref ac unrhyw broblemau cwricwlaidd yn y dosbarth.
•Annog gweithgareddau amser cinio i greu diddordeb yn y pwnc a threfnu ymweliadau addysgol sy'n cefnogi'r broses dysgu ag addysgu, yn arbennig trefnu adolygu yr adran ar
gyfer arholiadau allanol.
Dyletswyddau Penodol Eraill
•Gweithredu holl bolisïau'r ysgol gan gynnwys Cyfleoedd cyfartal ag Iechyd a Diogelwch.
•Adrodd am unrhyw ddiffygion i'r Rheolwr Busnes a Diogelwch
•Gweithredu Asesiadau Risg yn ôl y gofyn.
Cyfrifoldebau Athro/Athrawes:
Cyfrifoldeb
Mae athro yn gyfrifol am ddarparu profiadau dysgu llawn ar gyfer pob disgybl.
Mae angen i bob athro:-
•I weithredu a chyflwyno cwricwlwm perthnasol, eang, cytbwys, a gwahaniaethol ar gyfer y disgyblion ac i gefnogi'r ardal gwricwlwm penodol / pwnc priodol.
•I fonitro a chefnogi cynnydd a datblygiad y disgyblion fel athro/tiwtor dosbarth.
•I hyrwyddo ac annog profiadau dysgu sy'n rhoi cyfle i'r disgyblion i gyflawni eu potential personol.
•I gyfrannu at godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.
•I rannu a chefnogi cyfrifoldeb yr ysgol i barhau a monitro cyfleoedd am gynnydd academaidd a phersonol.
•I weithredu cynlluniau ansawdd yr ysgol.
Cwricwlwm
Cynllunio, Datblygu a Hunan Arfarnu
•Cyfrannu at Gynllun Datblygu ysgol gyfan.
•Cyfrannu at Cynlluniau Datblygu trawsgwricwlaidd ac adrannol a'u gweithrediad.
•Cynorthwyo gyda datblygiad Cynlluniau Gwaith, adnoddau, Polisi Marcio a strategaethau dysgu yn ardaloedd trawsgwricwlaidd ac adrannol.
•Cynllunio a pharatoi cyrsiau a gwersi.
•Cynorthwyo'r Arweinydd Pwnc a'r Dirprwyon drwy baratoi amrediad o amcanion dysgu sy'n cefnogi blaenoriaethau'r ysgol.
•Cynorthwyo yn y broses o ddatblygu cwricwlwm a rheoli newid i sicrhau bod y cyrsiau yn berthnasol i anghenion y disgyblion yn ogystal â'r byrddau arholi a gwobrwyo.
•I adolygu'r dulliau dysgu a rhaglen astudio.
•Cyfrannu i'r broses o fonitro ac arfarnu Cynlluniau Datblygu o fewn cylch hunan-arfarnu, gan gynnwys arfarnu yn erbyn targedau a meincnodau.
•I geisio a gweithredu newidiadau a gwelliant.
•r datblygiadau cwricwlwm, trefnyddiaeth a bugeiliol yr ysgol.
Addysgu
•I addysgu disgyblion yn ôl eu hanghenion addysgol, gan gynnwys gosod a mario gwaith ar gyfer y disgybl yn yr ysgol neu mewn lle arall.
•Asesu, recordio ac adrodd ar bresenoldeb, cynnydd, datblygiad a chyrhaeddiad y disgyblion ac i gadw cofnodion yn ôl y galw.
•I baratoi, neu gyfrannu at, asesiadau llafar ac mewn ysgrifen, adroddiadau a geirda sy'n berthnasol i ddisgyblion unigol neu grŵp o ddisgyblion.
•Sicrhau bod yr elfennau trawsgwricwlaidd TGC, Llythrennedd, Rhifedd, Datrys Problemau a gwybodaeth bynciol yn cael eu hadlewyrchu ym mhrofiadau dysgu ag addysgu'r disgyblion.
•Ymgymryd â llwyth gwaith dysgu penodol.
•Sicrhau profiadau dysgu o safon ar gyfer y disgyblion sy'n cyrraedd ansawdd disgwyliedig safonau mewnol ac allanol.
•Paratoi ac uwchraddio adnoddau pynciol.
•Defnyddio dulliau dysgu amrywiol fydd yn symbylu'r dysgu ac ateb anghenion y disgyblion a'r Maes
Llafur.
•Cynnal disgyblaeth yn ôl cytundeb a phrosesau'r ysgol, ac i annog arfer da gyda phrydlondeb, ymddygiad, safonau gwaith a gwaith cartref.
Asesu a Chynnydd
•I asesu disgyblion ar gais y byrddau arholiad allanol, adrannau a gofynion ysgol gyfan.
•I farcio, graddio a pharatoi adborth yn llafar ac yn ysgrifenedig.
•Cadw cofnod priodol a darparu gwybodaeth gyfredol gywir ar gyfer SIMS, cofrestri ayyb.
•Cwblhau dogfennau priodol i gynorthwyo'r broses o ddilyn disgyblion
•I ddefnyddio'r data fel gwybodaeth ar gyfer sicrhau cynnydd yn y gweithgareddau dysgu ag addysgu.
Adnoddau
Staffio
•I gymryd rhan yn rhaglen datblygu staff yr ysgol er mwyn sicrhau datblygiad proffesiynol.
•I barhau i ddatblygu'n bersonol yn yr ardaloedd a adnabuwyd drwy'r broses hunan arfarnu gan gynnwys gwybodaeth bynciol a dulliau dysgu.
•Gweithredu'r broses Rheoli Perfformiad gydag arddeliad.
•I gyfrannu yn bositif i'r cydweithio effeithio o fewn yr ysgol.
Cefnogaeth
•Sicrhau defnydd effeithiol /effeithlon o gymorthfeydd dosbarth.
•m.
Cyfathrebu
•Cyfathrebu yn effeithiol a chydweithio gyda rhieni.
•Cyfathrebu yn effeithiol o fewn y sefydliad.
•Cymryd rhan mewn Nosweithiau Agored a Chyfarfodydd Rhieni a chydweithio gydag ysgolion lleol.
•Cyfrannu at ddatblygu cysylltiadau pynciol effeithiol gyda'r Sector Cynradd ac asiantaethau allanol eraill.
Adnoddau Dysgu
•Cyfrannu at y broses o archebu a dosbarthu cyfarpar a defnyddiau.
•Adnabod adnoddau addas a gwneud defnydd effeithiol/effeithlon o'r adnoddau o fewn yr adran ac ar draws y cwricwlwm.
Bugeiliol
•Bod yn Diwtor Dosbarth i grŵp penodol o ddisgyblion.
•I hyrwyddo cynnydd cyffredinol a lles yr unigolion ar grŵp tiwtorial.
•Cydweithio gyda'r Arweinydd Bugeiliol i sicrhau gweithrediad system Bugeiliol yr ysgol.
•Cofrestru disgyblion, mynd gyda'r grŵp i'r gwasanaethau, rhoi anogaeth am bresenoldeb llawn mewn gwersi ac i gymryd rhan yn holl agweddau o fywyd ysgol.
•Arfarnu a monitro cynnydd y disgyblion ac adolygu'r dyddiadur gwaith cartref yn rheolaidd.
•Cyfrannu at gynnwys y Ffeil Gynnydd.
•Codi ymwybyddiaeth y staff perthnasol o broblemau sydd gan y disgyblion a gwneud argymhellion o sut y dylid datrys y broblem.
•r Rhaglen ABaCh, dinasyddiaeth a menter yn ôl Polisi'Defnyddio'r systemau rheoli ymddygiad er mwyn sicrhau bod dysgu effeithiol yn cymryd lle.
•Cyflwyno'r cwricwlwm addysg bersonol a chymdeithasol.
•Adolygu'r cwricwlwm ABaCh yn flynyddol.
Dyletswyddau Penodol Eraill
•Chwarae rhan amlwg ym mywyd yr ysgol, cefnogi'r bwriadau ac ethos ac annod staff a disgyblion iddilyn eich eisampl.
•Cefnogi oblygiadau cyfreithiol yr ysgol i gynnal cyfarfod addoliad dyddiol.
•Hyrwyddo polisïau canolog ysgol.
•Cadw at bolisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a gwneud asesiadau risg yn ô dyletswyddau eraill yn ôl y Dyletswyddau Proffesiynol Cyffredinol.
•Ymateb yn bositif i gais rhesymol gan reolwr i wneud gwaith tebyg i'r hyn sy'n ofynnol yn y swydd ddisgrifiad.
•Bod yn gwrtais gyda'ch cyd-weithwyr a chreu awyrgylch o groeso i ymwelwyr ac wrth ddelio gyda galwadau ffôn.
•Bydd yr ysgol yn gwneud addasiadau rhesymol i alluogi cyfleoedd i ymgeiswyr gydag anabledd am swyddi neu ar gyfer gweithiwr sy'n datblygu cyflwr o anabledd dros gyfnod.

Er bod ymdrech deg wedi ei wneud i egluro'r prif dyletswyddau'r swydd, nid oedd yn bosib nodi pob tasg unigol.
Yn Olaf Mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a nodir ond yn dilyn ymgynghoriad gyda chwi, gall newid i adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y swydd sy'n gyfesur gyda lefel cyflog a theitl y swydd.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi