MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3 - Ysgol Godre'r Berwyn, Bala

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 3 - YSGOL GODRE'R BERWYN

Yn eisiau: Cyn gynted â phosib

ADDYSG - YSGOLION DILYNOL

ADDYSG

(Cyfun 3 - 18: 546 o ddisgyblion)

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos

(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£16,958 - £18,134 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.

Nid yw'n bolisi gan Gyngor Gwynedd i gydnabod derbyn ffurflenni cais ar wahân i'r ceisiadau a dderbynnir ar-lein. Fodd bynnag os ydych yn penderfynu ymgeisio am y swydd drwy beidio defnyddio'r system ar-lein ac yn dymuno cael cadarnhad bod eich cais wedi ei dderbyn, yna ffoniwch Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid (01678 520259).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 6 MAWRTH, 2024.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma yn yr wythnos yn cychwyn 11eg o Fawrth, 2024.

This is an advertisement for the post of a Level 3 Learning Support Assistant at Ysgol Godre'r Berwyn, Bala for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi