MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £45,000.00 - £50,000.00
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Seicolegydd Addysg Ardal

Seicolegydd Addysg Ardal

Cyngor Sir Powys
Seicolegydd Addysg Ardal
Swydd-ddisgrifiad
Mae gwasanaeth Seicoleg Addysg Powys yn dîm bach a chefnogol wedi ei leoli yn ardal brydferth canolbarth Cymru.

Rydym ni'n darparu amrywiaeth o Wasanaethau Seicoleg Addysg sy'n seiliedig ar:
  • Ymarfer sy'n berson-ganolog ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Ymagweddau aml-asiantaethol a chydlynol
  • Asesiad o ansawdd
  • Ymgynghoriad grŵp
  • Ymyrraeth yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Goruchwyliaeth myfyriol
  • Hyfforddiant.
Byddwch chi'n cynorthwyo'r awdurdod i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol ar gyfer dynodi, asesu ac adolygu plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) rhwng 0-25 oed.

Yn ychwanegol, byddwch chi'n cynorthwyo'r cyngor i weithredu ei raglen i drawsnewid addysg drwy gyfranogi mewn ffrydiau gwaith i wella'r ddarpariaeth i ddisgyblion ag ADY. Yn ddiweddar cafodd y gwasanaeth ADY ei gydnabod gan Estyn am ei ymarfer effeithiol.

Gwella gwerthuso, cynllunio a chydlynu'r ddarpariaeth i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA) a disgyblion eraill y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt

Ymhlith y dyletswyddau allweddol mae rheoli clwstwr o ysgolion yng nghanolbarth Powys, gweithio gyda Chydlynwyr ADY a staff eraill. Mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo model ymgynghori mewn grŵp a datrys problemau ar y cyd sydd wrth galon unrhyw waith achos. Ceir cyfleodd i ddatblygu, cyflenwi a gwerthuso hyfforddiant a chymorth mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol, Ymagwedd Cymorth Dysgu drwy Eiriolaeth a myfyrio grŵp, goruchwyliaeth sy'n ystyriol o drawma i staff ysgolion. Caiff cyfleoedd am waith ar y cyd gyda chydweithwyr ei werthfawrogi gan y tîm. Byddwch yn cael cais i gyfrannu at feysydd o'r Cynllun Datblygu Gwasanaeth Seicoleg Addysg. Ar hyn o bryd rydym ni'n cefnogi ymagweddau ysgol gyfan at lesiant emosiynol ac iechyd meddwl, ymarferion sy'n ystyriol o drawma ac osgoi ysgol sy'n emosiynol ei sail.

Gwerthfawrogir datblygiad proffesiynol a chymorth cymheiriaid. Fel aelod o'r tîm byddwch yn cael eich cefnogi drwy'r cyfnod cyflwyno cychwynnol ac yna gan oruchwyliaeth cymheiriaid rheolaidd.

Rydym ni'n chwilio am rywun sydd yn:
  • Seicolegydd Addysg wedi cymhwyso'n broffesiynol (Doethuriaeth fel arfer) ac wedi cofrestru â
  • Ymroddedig i ddiogelu a hybu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus i'r rôl hon hefyd yn amodol ar ddatgeliad manylach y gwasanaeth datgelu a gwahardd.
  • Meddu ar sgiliau ardderchog o ran trefnu, rheoli amser, cyfathrebu a rhyngbersonol (Mae'r Gymraeg yn ddymunol)
  • Mae'r canlynol yn bwysig a hanfodol i'r rôl: meddu ar brofiad a gwybodaeth am ddatblygiad plant ac anghenion dysgu ychwanegol, anableddau a darpariaeth ofynnol i ddiwallu anghenion orau. Bydd ganddo hefyd wybodaeth gadarn o ymyraethau yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Gweithio oddi fewn i fframwaith ymgynghorol.
  • Brwdfrydig, creadigol a phenderfynol i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant drwy gymhwyso seicoleg.
  • Aelod cefnogol o'r tîm sy'n cyfrannu at ddatblygu'r gwasanaeth.
Lle byddwn yn derbyn llawer iawn o geisiadau am swydd, mae'n bosibl y byddwn yn dod â'r dyddiad cau yn gynt. Byddem yn eich annog felly i anfon eich ffurflen gais wedi'i llenwi cyn gynted â phosibl fel na fyddwch yn cael eich siomi.