MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Disgrifiad

Hafod y Wern - Ysgol Gynradd

Ffordd Deva, Wrecsam, LL13 9HD

Rhif Ffôn: 01978 367080

Pennaeth: Mr Simon Edwards

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Y Parch. Jonathan Smith

Cyfanswm ar y Gofrestr: 289

PENNAETH

I ddechrau 01/09/2024 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny

Arweinyddiaeth L15 £67,794 - L21 £78,547

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn gwahodd penaethiaid ac ymarferwyr profiadol sy'n meddu ar gymhwyster CPCP i wneud cais ar gyfer swydd pennaeth.

Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi ac ysbrydoli pob dysgwr i ddod yn

ddinasyddion byd-eang llwyddiannus. Mae ein hysgol newydd yn lle gwych i weithio a dysgu ynddi.

Rydym yn arbennig o falch o'r:

• dulliau arloesol o gefnogi lles ein disgyblion a'n cymuned

• ein Darpariaeth Adnoddau sy'n cefnogi ein dysgwyr ADY

• ein dull o ddysgu dan arweiniad y disgybl ochr yn ochr â'n hymrwymiad i lais y disgybl

• y gefnogaeth wedi'i thargedu rydym yn ei darparu i'n disgyblion, mae llawer ohonynt yn dod o rai o'r wardiau â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru

• y ffordd rydym yn gweithio i gefnogi ein teuluoedd, yr ydym yn freintiedig o weithio gyda nhw; ac

• ein disgyblion sy'n llawn ysgogiad, staff ymroddgar, rhieni cefnogol a chorff llywodraethu ymroddgar a gweithgar.

Mae'r ysgol yng nghanol y datblygiad tai cymdeithasol mwyaf yng Nghymru ac mae'n gwasanaethu rhai o'r wardiau â'r amddifadedd mwyaf. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymuned ehangach, sy'n gefnogol. Rydym yn gwerthfawrogi ein cysylltiadau â'r clwstwr ysgolion lleol.

Oherwydd ymddeoliad y Pennaeth presennol ar ôl 17 mlynedd, mae'r Llywodraethwyr yn awr yn awyddus i benodi pennaeth brwdfrydig a gweledigaethol gyda sgiliau arwain rhagorol ac ymrwymiad ac awch i gynnal safonau a lefelau cyrhaeddiad uchel yn yr ysgol.

Mae'n ofynnol bod ymgeiswyr yn:

• arddangos arweinyddiaeth gref a deinamig.

• adeiladu ar gryfderau ein hysgol ar y cyd â staff, disgyblion a rhieni.

• modelu ac ysbrydoli arfer dosbarth rhagorol ar draws yr ysgol, gan gynnal brwdfrydedd cryf tuag at addysgu a dysgu a chefnogi'r staff i ddathlu eu llwyddiannau.

• bod yn gefnogwr i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.

• ysgogi ac ysbrydoli pob disgybl ac aelod o staff yng nghymuned yr ysgol.

• meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, a'r gallu i feithrin perthnasau cadarnhaol gyda phob rhanddeiliad.

• datblygu potensial, uchelgais, hyder, cred a gwytnwch llawn bob plentyn.

• dangos ymrwymiad cryf i hyrwyddo lles a llais disgyblion.

• cynnal a chryfhau'r cysylltiadau yn y gymuned, gan hyrwyddo arfer gorau a pherthnasoedd cadarnhaol i ddatblygu'r ysgol ymhellach.

• creu amgylchedd sy'n sicrhau ymddygiad cadarnhaol, parch, goddefgarwch ac amrywiaeth i bob disgybl a hyrwyddo safonau cyrhaeddiad uchel.

• cynnal perthnasoedd agos â'r holl asiantaethau sy'n cefnogi'r teuluoedd sydd dan yr anfantais fwyaf.

• wedi ymrwymo i ymagwedd ofalgar sy'n cefnogi'n holl ddisgyblion a'u teuluoedd, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

Croesawir ymweliadau â'r ysgol cyn ymgeisio. I gael mwy o wybodaeth ac i wneud apwyntiad ar gyfer ymweliad cysylltwch â Beverly Williams, WilliamsB1212@Hwbcymru.net/ Rhif Ffôn: 01978 367080

Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried arfer ei hawl i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig.

DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI'I LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT GADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR ar e-bost:

SmithJ725@Hwbcymru.net

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Sylwer bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

DYDDIAD CAU: 19 Mawrth 2024

PROSES GYFWELD YN CYCHWYN W/D 15 Ebrill 2024