MANYLION
  • Lleoliad: Ffaldau Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Ffaldu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Ffaldu
Disgrifiad swydd
32.5

Mae Llywodraethwyr yr ysgol hapus, lwyddiannus hon yn awyddus i benodi athro/athrawes uchelgeisiol, llawn brwdfrydedd ac arloesol a chanddo/chanddi sgiliau rheoli a rhyngbersonol gwych i gynorthwyo'r Pennaeth wrth arwain tîm o staff addysgu a chymorth ymroddedig.

Dylech fod yn:

Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

Ymrwymedig i weithio'n agos gydag ysgolion eraill.

Ymarferydd rhagorol sy'n ymrwymedig i godi cyrhaeddiad a gwella'r ysgol.

Yn frwd dros addysg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a'r ysgogiad i arwain datblygiadau cwricwlwm sy'n galluogi i'r holl blant lwyddo yn eu dysgu.

Unigolyn sy'n meddu ar y sgiliau rhyngbersonol a threfnu angenrheidiol i symbylu ac ysgogi mentrau drwy ddefnyddio sgiliau'r tîm o staff.

Unigolyn sydd â'r bersonoliaeth, yr ysgogiad a'r brwdfrydedd i gynorthwyo'r pennaeth a'r llywodraethwyr wrth arwain a rheoli'r ysgol.

Yn yr ysgol rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig a fydd yn herio eich ffordd o feddwl.  Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwdfrydig am brofiad addysgol o ansawdd.

Bydd yr ymgeiswyr a ddewisir am gyfweliad yn cael cyfle i weld yr ysgol. Mae dyddiadau ymweliad â'r ysgol i'w cadarnhau.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 06 Mawrth 2024  

Dyddiad y Cyfweliad:18/19 Mawrth 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person