MANYLION
- Lleoliad: Ystrad Mynach,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Athro Dosbath - Trinity Fields
Disgrifiad swydd
Yn ofynnol cyn gynted â phosibl – Athro Dosbarth
Prif Raddfa Gyflog Athrawon (£29,278–£45,085) y flwyddyn ynghyd â phwynt/pwyntiau AAA yn dibynnu ar brofiad ac arbenigedd
Mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yn ysgol arbennig ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed ag anghenion difrifol a chymhleth. Mae'r ysgol yn darparu darpariaeth arbenigol ar brif safle'r ysgol yn Ystrad Mynach, yn ogystal ag yn ei 8 dosbarth lloeren wedi'u lleoli mewn ysgolion prif ffrwd. Rydyn ni'n gwasanaethu Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ogystal â chael rhai disgyblion o awdurdodau cyfagos. Mae Ysgol Cae'r Drindod yn uchel ei pharch ymhlith rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd. Ar hyn o bryd, mae 269 o blant ar y gofrestr.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i'r ysgol wrth i ni barhau i ddatblygu partneriaethau ffurfiol â'r awdurdod lleol ac ysgolion prif ffrwd gyda chanolfannau adnoddau arbenigol er mwyn gwella deilliannau disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ledled y Fwrdeistref Sirol. Gallai'r swydd hon fod ar y prif safle neu yn un o'n canolfannau lloeren.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addysg bersonol a chynhwysol iawn i'n holl ddisgyblion ni, gyda phwyslais ar ddiwallu eu hanghenion unigol a datblygu eu cryfderau a'u diddordebau mewn amgylchedd hynod gefnogol a diddorol.
Rydyn ni'n Ysgol sy'n Parchu Hawliau. Rydyn ni wedi ymrwymo'n gadarn i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rydyn ni hefyd yn Ysgol Iach (mae gennym ni Wobr Ansawdd Genedlaethol y Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru), Ysgol Gynhwysol (mae gennym ni statws Ysgol Flaenllaw y Marc Ansawdd Cynhwysiant), Ysgol Buddsoddwyr mewn Teuluoedd (mae gennym ni Wobr Ddiemwnt Buddsoddwyr mewn Teuluoedd) ac yn eco-ysgol (mae gennym ni Wobr Platinwm Eco-Sgolion).
Fe wnaeth Estyn (Mehefin 2019) ein barnu'n RHAGOROL ym mhob un o'r 5 maes arolygu.
Mae'r disgyblion yn awyddus i benodi athro sy'n bodloni'r canlynol:
Yn deg, yn gyfeillgar ac yn gallu eu helpu mewn nifer o ffyrdd gwahanol;
Yn gallu eu helpu i ennill achrediad pellach am eu dysgu;
Yn llawn hwyl, ac a fydd yn gwrando ar eu barn ac yn gweithredu ar eu barn;
Yn fodel rôl cadarnhaol ac yn dweud wrthyn nhw pan maen nhw'n gwneud yn dda.
Mae'r llywodraethwyr yn awyddus i benodi athro sy'n bodoli'r canlynol:
Yn brofiadol, yn ymroddedig iawn ac yn frwdfrydig;
Yn gallu gweithio'n effeithiol gyda disgyblion ag amrywiaeth eang o anghenion dysgu;
Yn hyblyg, yn drefnus iawn ac yn gallu arwain tîm dosbarth yn hyderus, gyda llwyddiant blaenorol o wneud hyn.
Bydd angen i'r athro sy'n cael ei benodi fod ag amrywiaeth eang o brofiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu dwys/cymhleth mewn lleoliadau arbenigol. Mae hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd.
Fel rhan o'r rôl, bydd disgwyl i'r ymgeisyddllwyddiannus arwain/gynorthwyo gyda maes/meysydd dysgu a phrofiad, fel rhan o ddatblygiadau'r Cwricwlwm i Gymru. Dylai ymgeiswyr nodi eu cryfderau'n glir yn eu llythyr cais.
RHAID i'ch llythyr cais gyfeirio at BOB UN o'r meini prawf HANFODOL, fel sy'n cael eu nodi ym manyleb y person.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn elwa ar raglen sefydlu lawn a chymorth parhaus. Byddwch chi hefyd yn gallu manteisio ar ein rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus gynhwysfawr.
I gael ffurflen gais, anfonwch amlen fawr, gyda'ch cyfeiriad a dau stamp dosbarth Cyntaf arni, at Leanne Gibbs, Rheolwr Busnes, Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod, Caerphilly Road, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7XW.
Rhif ffôn: 01443 866000 neu drwy e-bost: TrinityFieldsSchool@sch.caerphilly.gov.uk
Dylai ffurflenni cais sydd wedi eu llenwi gael eu dychwelyd at Leanne Gibbs yn y cyfeiriad post uchod.
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom ni i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad, byddwn ni'n gofyn i chi ddarparu dogfennau priodol, fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith, yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal yn achos pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Croeso i chi gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy'n cael ei gyflwyno yn y Saesneg.