MANYLION
  • Lleoliad: Glannau Dyfrdwy (rhaid bod yn barod i deithio ar draws ein 5 safle Coleg Cambria),
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,908 - £33,705
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Arbenigwr Iechyd a Llesiant CC/2548

Coleg Cambria

Cyflog: £30,908 - £33,705

Job Description

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Arbenigwr Iechyd a Llesiant i ymuno â'n tîm Adnoddau Dynol cefnogol.

Teitl y Swydd: Arbenigwr Iechyd a Llesiant

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy neu Iâl (rhaid bod yn fodlon teithio i bob un o 5 safle Coleg Cambria weithiau)

Math o Gontract: Rhan-amser (29.6 awr yr wythnos) (0.8 Cyfwerth ag amser llawn), Cyfnod Penodol tan 31 Gorffennaf 2025

Cyflog: £30,908 - £33,705 pro rata

Trosolwg o'r Swydd
Wrth ymuno â ni fel Arbenigwr Iechyd a Llesiant, byddwch yn gyfrifol am weithredu'r Strategaeth Iechyd a Llesiant i'n pobl ledled y Coleg.
Byddwch yn nodi ac yn gweithredu mentrau i gefnogi iechyd a llesiant ein cydweithwyr, trwy ystyried pob agwedd ar lesiant fel corfforol, meddyliol, ariannol a chymdeithasol.
A byddwch yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid ledled y coleg i weithredu datrysiadau iechyd a llesiant i'r holl gydweithwyr.

Gofynion Hanfodol

Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau gweithredu.

Profiad o gydlynu mentrau iechyd a llesiant mewn sefydliad i weithwyr yn llwyddiannus ac yn amserol.

Cymhwyster proffesiynol CIPD Lefel 5 neu gymhwyster cyfwerth.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd os byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau'r cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar y safle

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai