MANYLION
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Mentor Lles

Coleg Sir Gar
Mentor Lles
Application Deadline: 23 February 2024

Department: Lles

Employment Type: Parhaol - Rhan Amser

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Cydlynydd Lles

Compensation: £21,225 - £23,032 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (y Coleg) wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Mae'r coleg yn dymuno penodi Mentor Lles i ddarparu cymorth wedi'i anelu'n bennaf at ddysgwyr a darpar ddysgwyr sydd mewn mwyaf o berygl o fod yn NEET (Ddim mewn Gwaith, Addysg neu Hyfforddiant). Bydd gwaith y Mentor Lles yn galluogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i ddysgu yn well a chyflawni deilliannau dysgwyr llwyddiannus.

Bydd gwaith y Mentor Lles yn ategu rhwydwaith cymorth ehangach y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr o fewn y Coleg a gweithgareddau o fewn Meysydd Cwricwlwm.Bydd y gwaith yn gofyn am lefel uchel o gydweithredu â staff eraill ar draws y Coleg.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Darparu cymorth Mentora/Annog i ddysgwyr unigol wedi'u targedu;
  • Ymgymryd â gweithdrefnau atgyfeirio ac asesu;
  • Cwblhau a chynnal dogfennaeth fewnol a systemau TG perthnasol fel bod modd mesur effaith ac ymyriadau;
  • Cyfrannu at waith y coleg ar ddiogelu yn unol â'r polisi a phrosesau adrodd;
  • Mynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd mewnol perthnasol megis gwrandawiadau disgyblu, adolygiadau dysgwyr, cyfarfodydd llwyth achosion, cyfarfodydd tîm, ac ati, lle bo hynny'n berthnasol;
  • Mynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd allanol megis cyfarfodydd VAP, SEET, Cynadleddau Amddiffyn Plant, ac ati, lle bo hynny'n berthnasol;
  • Datblygu, hwyluso a chyflwyno rhaglenni datblygiad personol i grwpiau o ddysgwyr, e.e. gweithdai, cyfarfodydd cymdeithasol, ac ati;
  • Hyrwyddo ymddygiad positif yn unol â gwerthoedd y coleg sef Bod yn Barod, Bod yn Barchus a Bod yn Ddiogel;
  • Datblygu, hwyluso a chyflwyno gweithgareddau pontio gyda'r nod o gefnogi dysgwyr i mewn i'r coleg;
  • Hyrwyddo a chefnogi blaenoriaethau lles ehangach y Dysgwyr ar draws y coleg megis Llais y Dysgwr, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Diogelu a Lles, Cariad, Mentora Cymheiriaid, Cyflogadwyedd, Gwirfoddoli, ac ati;
  • Cysylltu ag adrannau mewnol gan gynnwys gwasanaethau eraill o fewn Cefnogi Dysgwyr, Cymorth Dysgu, Meysydd Cwricwlwm, Cludiant, ac ati;
  • Cysylltu â phartneriaid a budd-ddeiliaid allanol i ddarparu cefnogaeth ac atgyfeirio effeithiol;
  • Darparu cymorth o bell i ddysgwyr yn ôl yr angen, gan gynnwys i ddysgwyr ar draws yr holl gampysau ar adegau;
  • Cysylltu â chydweithwyr, darparwyr cymorth allanol a theuluoedd myfyrwyr lle bo hynny'n briodol i sicrhau eich bod yn cyfrannu'n effeithiol i becyn cyffredinol o gymorth ar gyfer eich myfyrwyr;
  • Cefnogi dysgwyr i fynychu ymweliadau a drefnwyd oddi ar y campws lle bo hynny'n berthnasol;
  • Mynychu hyfforddiant perthnasol a chynnal eich cofnodion DPP eich hun

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Cymhwyster Sgiliau Cynghori
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc ag ystod o anghenion cymorth dysgu a chymorth personol
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Y gallu i uniaethu â'r grŵp targed
  • Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
Dymunol:
  • Cymhwyster ar Lefel 3 neu uwch
  • Trwydded yrru gyfredol
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein