MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Uwchradd Bodedern,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Cynllun Pontio

Cyngor Sir Ynys Mon
Disgrifiad

Gwasanaeth: Dysgu

Ysgol: Ysgol Uwchradd Bodedern

Cyflog: £30,742 - £47,340 y flwyddyn

Oriau: Cyfle Llawn Amser / Rhan Amser

Cytundeb: Dros Dro - hyd at 31/8/2025 yn unig yw hwn.

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a cofrestriad CGA

Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 23 Chwefror 2024.

Mae'r ffurflen gais a Disgrifiad Swydd/Manylion Personol ar gael wrth ddilyn y dolennau isod.

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Bydd y sawl a benodir yn cael ei gyflogi dan y Cynllun Pontio Cynradd-Uwchradd Llywodraeth Cymru. Gweler y manylion pellach (swydd ddisgrifiad) am fwy o fanylion am y cynllun. Mae'r pwnc i'w benderfynu ynghyd a'r oriau gwaith.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Proses ymgeisio:

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi'i atodi i'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener 23 Chwefror 2024.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng 11-15 Mawrth 2024.

Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/cynllun-pontio-cynradd-i-uwchradd-cyfrwng-cymraeg/ neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth Mr Paul GS Matthews-Jones ar Paul.Matthews-Jones@YUBodedern.Cymru