MANYLION
- Lleoliad: Llandysul,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Ynglŷn â'r rôl
Swydd Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dyffryn Cledlyn.
Yn eisiau o Fedi y 1af 2024.
Cyfle unigryw a chyffrous i weithio mewn Ysgol Gymunedol Wledig llwyddiannus yng Ngheredigion.
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dyffryn Cledlyn yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth ymroddedig, brwdfrydig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i'r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli'r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon. Un o ddyletswyddau'r swydd bydd ymgymryd a Rôl CADY yn yr ysgol Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yn llawn amser.
Dylai'r unigolyn feddu ar gymhwyster rheolaeth ganol.
Fe fydd y Dirprwy Bennaeth yn:
Mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda'r Pennaeth Carol Davies i drafod ymhellach ar y rhif ffôn canlynol: 01570 940942
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Dyddiad cau: 23ain o Chwefror
Cyfweliadau: Wythnos y 26ain o Chwefror
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
Darllen mwy

- dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rôl drefnus a chydwybodol
- barod i weithio fel rhan o uwch dim rheoli cadarn
- hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb
- ymgynghori a chynnig cyngor adeiladol i'r Pennaeth mewn meysydd a fyddai'n fanteisiol i'r ysgol
- cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog ethos gwaith effeithiol
- bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy'n codi oherwydd absenoldebau tymor byr a thymor hir
- gweledigaeth i hyrwyddo yr ysgol ymhellach
- dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu drwy'r ysgol gyfan
- medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu
- gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm
- ymrwymiad cryf i gyfoethogi'r cysylltiadau gyda'r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol
Mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda'r Pennaeth Carol Davies i drafod ymhellach ar y rhif ffôn canlynol: 01570 940942
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Dyddiad cau: 23ain o Chwefror
Cyfweliadau: Wythnos y 26ain o Chwefror
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy