MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Uned 21, Ystâd Ddiwydiannol Whitegate,

Wrecsam, LL13 8UG

01978 268140

Caren Jones, Arweinydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid

37 awr yr wythnos

Graddfa O9, £35,745 - £38,223

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn sefydliad aml-asiantaeth sydd â'r weledigaeth ganlynol: "Wrecsam sy'n ddiogel ac yn rhydd rhag trosedd i bawb, lle mae pobl ifanc yn ddinasyddion gwerthfawr o fewn eu cymuned".

Bydd y Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid yn gyfrifol am reoli achosion pobl ifanc sydd wedi derbyn gorchmynion llys statudol neu atgyfeirio gan eraill. Bydd y swyddog hefyd yn gyfrifol am gefnogi'r bobl ifanc drwy'r broses, gan weithio'n agos gyda nhw a'u rhieni/gofalwyr. Fel unigolyn gyda gradd mewn maes perthnasol neu brofiad priodol ym maes Cyfiawnder Ieuenctid, bydd gennych chi brofiad o gynnal asesiadau, darparu ymyriadau a rheoli risg.

Mae'r gwasanaeth yn lle prysur a deinamig i weithio ynddo, felly bydd arnoch chi angen bod yn hyblyg a llawn cymhelliant, gyda brwdfrydedd a gwytnwch i weithio o fewn yr adnoddau i ddarparu gwasanaeth ardderchog ac i reoli gofynion sy'n gwrthdaro. Bydd deilydd y swydd yn gweithio ddydd Sadwrn a gwyliau banc yn unol â'r rota er mwyn darparu swyddog ar ddyletswydd ar gyfer y llysoedd lleol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Amy Hutchinson, Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal 01978 298739.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.