MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennarth _- Ysgol Clywedog

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL CLYWEDOG

Ffordd Rhuthun

Wrecsam

LL13 7UB

Rhif ffôn: 01978 346800

Gwefan: www.clywedog.org

E-bost: mailbox@clywedog.wrexham.sch.uk

PENNAETH

WRECSAM, GOGLEDD CYMRU

L29 i L35 (£95,545 i £110,681)

Ar gyfer Medi 2024

Parhaol, Llawn Amser

Mae Ysgol Clywedog yn ysgol gyfun gymysg, cyfrwng Saesneg i ddisgyblion 11 i 16 oed a gynhelir gan Awdurdod Lleol Wrecsam. Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi ymgeisydd rhagorol i arwain yr ysgol ar ei thaith tuag at welliant. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â'r gallu i ddangos ymrwymiad llwyr i ddarparu dysgu ac addysgu a chefnogaeth o ansawdd uchel i bob disgybl, mewn amgylchedd cynhwysol, a fydd yn galluogi pob disgybl unigol i lwyddo.

Mae'r ysgol wedi'i lleoli yn Wrecsam, Gogledd Ddwyrain Cymru, ac mae'n falch o, ac yn dathlu ei threftadaeth a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Mae Wrecsam yn gorwedd yn Nyffryn Dyfrdwy rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadoedd Swydd Gaer. Mae'r dref mewn lleoliad a all gynnig cefn gwlad hardd Gogledd Cymru, ac o fewn munudau, dinasoedd bywiog fel Caer, Manceinion a Lerpwl - lle cewch amrywiaeth eang o ddiwylliant, bywyd nos a siopau.

Yn Ysgol Clywedog, rydym yn cynnig amgylchedd cynhwysol i 830 o fyfyrwyr sy'n galluogi pob disgybl unigol i lwyddo. Hoffwn benodi Pennaeth gyda phrofiad sylweddol o weithio mewn lleoliad addysg uwchradd, ac yn ymwybodol o beth yw darpariaeth ragorol, cynnydd academaidd a chynhwysiant.

Rydym yn chwilio am arweinydd deinamig gyda gwir awydd i wneud gwahaniaeth i addysg myfyrwyr Wrecsam. Yn ogystal, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agored, yn gynhwysol ac yn gydweithredol gyda'r Awdurdod Lleol, Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) a rhanddeiliaid er mwyn creu amgylchedd addysgol sy'n ysgogi, yn cefnogi ac yn meithrin myfyrwyr. Mae'n rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth ddofn o'n gweledigaeth a'n gwerthoedd a bod gydag ymrwymiad iddynt.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn ysbrydoledig gyda Chymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) a gyda'r gallu i ddangos egni, brwdfrydedd a sgiliau arwain profedig.

Dylid cyflwyno ceisiadau dim hwyrach na Dydd Llun 4 Mawrth am 12pm

Os hoffech drefnu taith o amgylch yr ysgol, cysylltwch os gwelwch yn dda.

Rhif ffôn: 01978 346800 neu e-bost: Kelly.stacey@clywedog.org

Byddwch cystal â nodi fod pob swydd ysgol yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae'n rhaid i ymgeiswyr brofi bod ganddynt brofiad naill ai trwy fod yn Bennaeth mewn swydd neu feddu ar gymhwyster CPCP ar y dyddiad dechrau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Ymweliadau â'r Ysgol: Dydd Mercher Chwefror 21ain

Dyddiad Cau: 12pm dydd Llun 4ydd Mawrth

Dyddiad Cyfweld: Dydd Iau 14eg a dydd Gwener 15fed Mawrth 2024