MANYLION
  • Lleoliad: Blackwood,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Deputy Headteacher - Blackwood Comprehensive School

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Deputy Headteacher - Blackwood Comprehensive School
Disgrifiad swydd
I ddechrau ar 1 Medi 2024 (yn amodol ar wiriadau diogelu)

Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau gan arweinwyr dynamig, arloesol, profiadol sydd â chymwysterau addas ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Coed Duon. Rydyn ni'n ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11-16 oed wedi’i lleoli ar gyrion Cefn Fforest a Choed Duon. Mae gan yr ysgol chwe phrif glwstwr o ysgolion cynradd, ac mae gennym ni 988 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Rydyn ni'n ysgol gymunedol gyffrous, ffyniannus, sy'n hyrwyddo rhagoriaeth i bawb o fewn amgylchedd gofalgar a chefnogol a diwylliant Dyheu, Mynychu, Cyflawni. Cafodd ein gweledigaeth ei llunio ar y cyd gan gymuned ein hysgol ac mae’n seiliedig ar ddarparu amgylchedd dysgu anogol ac uchelgeisiol lle mae disgyblion a staff yn teimlo’n ddiogel ac yn cael cymorth.

Mae Ysgol Gyfun Coed Duon yn gymuned ysgol gynhwysol lle rydyn ni'n defnyddio grym dysgu ac addysgu i ddatblygu disgyblion hyderus, hapus, gwydn ac annibynnol. Yn ein hamgylchedd dysgu diogel a meithringar, mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal, a thrwy weithio gyda'n gilydd, mae perthnasoedd cadarnhaol yn sicrhau ein bod ni'n codi dyheadau, yn gwireddu ein potensial ac yn sicrhau ein dyfodol.

Er bod lles wrth wraidd popeth a wnawn, mae gan staff y disgwyliadau uchaf ar gyfer ein holl ddisgyblion, waeth beth fo'u cefndir, gallu, rhyw neu anfantais. Mae tua 28.5% o’n disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chynyddodd y nifer hwn yn sylweddol yn dilyn effaith COVID-19.

Yn dilyn ymweliad gan Estyn ym mis Mai 2023, roedden ni wrth ein bodd â’n hadroddiad arolygu a amlygodd safon uchel yr addysgu, lles ac arweinyddiaeth yn yr ysgol. Roedd yr adroddiad yn cydnabod ein disgyblion fel pobl ifanc gyfeillgar, cwrtais, cyflawn sy’n cyfleu balchder cryf yn eu hysgol a’u cyflawniadau personol, a hefyd ymrwymiad staff i ddisgyblion a gwerthoedd yr ysgol. Mae copi o’r adroddiad hwn a’n Hastudiaethau Achos ar gael gan ddefnyddio’r dolenni canlynol:

Adroddiad Arolwg Ysgol Gyfun Coed Duon

Datblygu diwylliant o hunanwerthuso a dysgu proffesiynol parhaus yn Ysgol Gyfun Coed Duon

Datblygu a gwella medrau cymhwysedd digidol disgyblion yn Ysgol Gyfun Coed Duon

Mae llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi Dirprwy Bennaeth sydd â'r nodweddion canlynol:
  • Llwyddiant blaenorol o arfer ystafell ddosbarth rhagorol;
  • Yn rhoi sylw i'r manylion;
  • Sgiliau arwain a rheoli rhagorol;
  • Gweledigaeth glir a phrofiad o hunanwerthuso a chynllunio gwella;
  • Sgiliau personol ac adeiladu tîm ardderchog;
  • Dealltwriaeth ragorol o'r Cwricwlwm i Gymru a datblygu staff;
  • Ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach;
  • Llwyddiant blaenorol o ddatblygu arfer arloesol ac arwain newid.

Bydd y Llywodraethwyr yn darparu cymorth effeithiol i'r ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn dangos ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda nhw i ddarparu arweinyddiaeth o ansawdd uchel a'r addysg orau bosibl i'n disgyblion.

Yn gyfnewid, gallwn ni gynnig y canlynol i chi:

  • Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
  • Ysgol gyda dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i fywydau ein disgyblion a’u teuluoedd;
  • Cyfle i helpu llunio dyfodol lles, addysgu a dysgu;
  • Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr.

Yn ogystal â ffurflen gais wedi'i llenwi, dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb wneud cais ysgrifenedig gan ddefnyddio dim mwy na dwy ochr A4, gan gyfleu eu gweledigaeth ar gyfer y rôl a nodi profiad, gwybodaeth a sgiliau perthnasol.

Os hoffech chi gael taith o amgylch yr ysgol, bydd hwn ar gael ddydd Mawrth 27 Chwefror. Cysylltwch â Jane Wilkie ar 01494 225566 i drefnu amser addas.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 29 Chwefror 2024

Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio ar: 20 Mawrth 2024

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar: 15 Mawrth 2024

Am Ddisgrifiad Swydd a Manyleb y Person, cliciwch ar y dogfennau ynghlwm.

Os hoffech chi, ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Jane Wilkie ar 01494 225566.

Croeso i chi gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy'n cael ei gyflwyno yn Saesneg.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol fel tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal yn achos pob ymgeisydd llwyddiannus.Bydd hyn yn cynnwys gwiriad uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.