MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes (dros dro) Ysgol Brynrefail

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG

(Ysgol Gyfun 11 - 18: 789 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af o Fedi, 2024.

ATHRO/ATHRAWES (DROS DRO)

Cytundeb dros dro am flwyddyn hyd at 31/8/2025 yn unig yw hwn.

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Brynrefail am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.

Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person

Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Arwyn Williams ar rif ffon 01286 672381 neu drwy e-bost pennaeth@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener 23ain o Chwefror 2024.

https://hwb.gov.wales/dysgu-proffesiynol/datblygu-r-gymraeg-yn-eich-ysgol/cynllun-pontio-cynradd-i-uwchradd-cyfrwng-cymraeg/

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng 11-15 Mawrth 2024.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is an advertisement for a temporary post for a Teacher at Ysgol Brynrefail, Llanrug who will be employed under the Primary to Secondary Welsh-medium Conversion Programme for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school .).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

https://hwb.gov.wales/dysgu-proffesiynol/datblygu-r-gymraeg-yn-eich-ysgol/cynllun-pontio-cynradd-i-uwchradd-cyfrwng-cymraeg/