MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Eifionydd, Porthmadog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Technegydd Systemau Digidol - Ysgol Eifionydd

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL EIFIONYDD

HYSBYSEB



Yn eisiau: 8fed o Ebrill 2024 (neu cyn gynted a phosib wedi hynny)

Technegydd Systemau Digidol

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 15 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (£9,543 - £10,391 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Arweinydd Busnes a Chyllid Marian Crowe sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru .

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Marian Crowe, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Eifionydd, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HS (Rhif ffôn: 01766 512114, Ffacs 01766 514785); e-bost: sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, Dydd Llun, 26ain o Chwefror, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

(The above is an advertisement for a term-time Systems Technician at Ysgol Eifionydd which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

SWYDD: Technegydd Systemau Digidol

ORIAU GWAITH: 15 awr yr wythnos
Cytundeb 40 wythnos fydd yn cynnwys 5 diwrnod HMS a cyfwerth a'r oriau gwaith wythnosol ar gais y Pennaeth yn ystod gwyliau ysgol.

YSTOD CYFLOG: Graddfa S1 (Pwyntiau 12-17)

YN ATEBOL I: Rheolwr Busnes

PWRPAS Y SWYDD
Bydd y Technegydd Systemau yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau digidol yr (Cwricwlaidd) mewn cydweithrediad a Digidol Gwynedd ac hefyd yn cynorthwyo gyda'r ochr weinyddol SIMS/FMS yr ysgol.

PRIF DDYLETSWYDDAU

ADNODDAU

• Cyfrifoldeb am reolaeth holl systemau cyfrifiadurol yr ysgol mewn cydweithrediad a Digidol Gwynedd.

• Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch y rhwydweithiau rhag feirws a mynediad anawdurdodedig i'r systemau mewn cydweithrediad a Digidol Gwynedd.

• Cydweithio agos gydag Digidol Gwynedd pan fydd angen sylw i system TGCh gweinyddol yr ysgol.

• Ar y cyd a'r Cydlynydd TGCh - cynghori'r UDRh am ddatblygiadau yn y maes TGCh ac adolygu darpariaeth yr ysgol yn rheolaidd.

• Sicrhau fod yr ysgol yn derbyn y ddarpariaeth gefnogol yn unol â Chytundebau Lefel Gwasanaeth sydd yn ymwneud a TGCh a sicrhau trwyddedau cyfredol o safbwynt TGCh.

• Arsefydlu caledwedd a meddalwedd a chynnal a chadw offer TGCh yr ysgol gan geisio rhagweld problemau a'u datrys sydd yn codi yn ddi rybudd mewn cydweithrediad a Digidol Gwynedd.

• Rheoli a monitro holl stoc/offer meddalwedd a rhaglenni cyfrifiadurol ar draws yr ysgol

• Cyd-weithio â'r Rheolwr Busnes i archebu holl adnoddau/offer cyfrifiadurol ar draws yr ysgol gan sicrhau gwerth gorau am arian.

• Paratoi deunyddiau ar gyfer Maes dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg pan mae'r angen yn codi.

• Cyd-weithio gydag Swyddog Adeiladau yr ysgol i fonitro systemau diogelwch ac ynni'r ysgol.

• Cyd-weithio gyda Swyddog Arholiadau i osod fyny cyfrifiaduron ar gyfer profion ar lein, cynorthwyo i gasglu data canlyniadau allanol a gweinyddu profion cenedlaethol.

• Cyd-weithio gyda'r swyddfa i hyrwyddo gweithgareddau a sicrhau proffil cyhoeddus yr ysgol ar wefan yr ysgol a gwefannau cymdeithasol.

CYFRIFOLDEBAU

• Rheoli a rhoi arweiniad i dechnegwyr yr ysgolion fel yr angen.

• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau a chydymffurfio â'r rhai hynny sy'n berthynol i amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cydgyfrinachedd a gwarchod data, adrodd ar bob pryder i berson priodol

• Bod yn ymwybodol o wahaniaethau a'u cefnogi a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb.

• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgolion.

• Gwerthfawrogi a chefnogi swyddogaeth pobl broffesiynol eraill.

• Mynychu cyfarfodydd perthnasol fel y bo'n ofynnol a chyfranogi ynddynt.

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygiad perfformiad fel bo'r gofyn yn arbennig hyfforddiant Adran IT Gwynedd.

• Unrhyw ddyletswyddau pellach ar gais y Penaethiaid sydd yn gydnaws ậ'r swydd.

• Bydd deiliad y swydd yn ymatebol yn y lle cyntaf i'r Rheolwyr Busnes a thrwyddi nhw i'r Penaethiaid.

• Gweithredir Cynllun Gwerthuso yn yr ysgolion. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o'r broses.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi