MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Anghenion Dysgu Ychwanegol Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION CYNRADD

ATHRO / ATHRAWES ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

YSGOL HAFOD LON, PENRHYNDEUDRAETH
(Ysgol Arbennig 3 - 19 oed: 115 o ddisgyblion)

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) yn ôl profiad a chymhwyster.

Yn Eisiau: Pasg 2024

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar i ymgymryd â dyletswyddau addysgu plant yn yr ysgol.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Donna Roberts. Rhif Ffôn 01766 772140 e-bost: Donna.Roberts@hafodlon.ysgoliongwynedd.cymru

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Sian Evans, Cymhorthydd Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704046 e-bost: sianevans@gwynedd.llyw.cymru

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.

Dyddiad i ymgeiswyr ymweld a'r ysgol 23 Chwefror 2024.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma wythnos yn cychwyn 26 Chwefror 2024.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD MAWRTH, 20 CHWEFROR 2024.

(This is an advertisement for the post of a Special Educational Needs Teacher,at Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment

Y Pum Safon Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.pdf

Manylion Person

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

• Statws athro/athrawes gymwysedig

• Cymhwyster lefel gradd ar gyfer oed cynradd/Uwchradd

DYMUNOL

• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol perthnasol diweddar

• Diddordeb yn y maes Gwyddoniaeth/Technoleg

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Profiad o:

• o sgiliau reolaeth dosbarth da

• gynnal gwersi effeithiol a diddorol

• ddefnyddio adnoddau yn effeithiol

• sicrhau ymddygiad priodol

• sefydlu ac anelu at ddisgwyliadau uchel parhaol

• gynllunio'n llwyddiannus

• gydweithredu fel aelod o dîm

DYMUNOL

• ddysgu yn y sector anghenion arbennig

• tystiolaeth o safonau addysgu a dysgu cyson dda

SGILIAU A GWYBODAETH BROFFESIYNOL

HANFODOL

• Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol cyfredol

• Yn deall ystyr darpariaeth gwricwlaidd effeithiol

• Person egniol gyda'r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant

• Y gallu i weithio o dan gyfarwyddid a chydweithio fel aelod o dîm

• Y gallu i sicrhau dysgu o'r safon uchaf, cyfleoedd dysgu unigol o safon uchel i bob disgybl, a safonau cyrhaeddiad uchel

• Y gallu i ddefnyddio asesiadau'n effeithiol

• Sgiliau reoli ymddygiad disgyblion rhagorol

• Defnydd cymwys a hyderus o DGCh

DYMUNOL

• Y gallu i gyfrannu at lwyddiant a gwelliant ysgol trwy brosesau hunan arfarnu

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig;

• Person egniol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel

• Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf;

• Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol;

• Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol

DYMUNOL

• Parodrwydd i gyfrannu tuag at fywyd eang yr Ysgol

• Yn datblygu diddordebau personol addas oddi fewn i gymuned yr ysgol ee Cerdd

ANGHENION IEITHYDDOL

HANFODOL

Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg - darllen, siarad ac ysgrifennu.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion o dan ei g/ofal a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.

• Trwy weithio o dan gyfarwyddid y pennaeth a chydweithio a'r UDRh ac athrawon eraill mae'r athro dosbarth yn cyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.

• Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Adnoddau dysgu, arwain cymorthyddion

Prif Ddyletswyddau.

Amodau

Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae'n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau'r ysgol.

Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth'. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.

Cyfrifoldebau Proffesiynol

Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:

• Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw'r person priodol at unrhyw broblem.

• Cynnig addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau'r unigolion.

• Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw'r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.

• Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith, gan gynnwys paratoi disgyblion ar gyfer profion neu arholiadau mewnol ac allanol yn ôl yr angen.

• Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.

• Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.

• Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.

• Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i'r dosbarth a'u hanfon allan dan reolaeth a threfn.

• Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i'w g/ofal hyd eithaf ei allu.

• Gosod a marcio gwaith y disgyblion.

• Cynnal disgyblaeth yn unol â'r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol.

• Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol.

• Cyfrannu at drefniadau'r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion.

• Cymryd rhan yn nhrefniadau'r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad.

• Ymroi i ddatblygiad proffesiynol sy'n berthnasol i'r swydd a chyfrifoldebau drwy gydol ei g/yrfa.

• Cynghori, arwain a chydweithio â'r pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.

• Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy'n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.

• Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.

• Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a'r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.

• Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau yn unol â threfniadau'r ysgol.

• Mynychu nosweithiau rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.

• Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol o fewn oriau cyfeiriedig.

• Mynychu hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.

• Hybu blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol presennol.

• Cyfrannu'n bwrpasol i ddatblygu'r ysgol i fod yn ganolfan sy'n cynrychioli'r arferion a'r safonau proffesiynol uchaf.

• Cydweithio'n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.

• Cyfrannu gyda'r Pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.

• Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.

Cysylltiadau:

Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:

- rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.

- gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

• Gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi