MANYLION
  • Lleoliad: St. David's Park, Carmarthen,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Cefnogi a Chyflwyno

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Rydym yn awyddus i benodi un cynorthwy-ydd addysgu brwdfrydig i weithio yn yr Adran Gynhwysiant gan ategu gwaith proffesiynol athrawon drwy roi cymorth a chefnogaeth ar anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu/ChATT a datblygu dulliau rhyngweithio dwys i ysgolion cyn-ysgol, ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir Gaerfyrddin.

Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau dysgu i unigolion/grwpiau ar gyfer blociau o sesiynau, monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniad, cynnydd a datblygiad.

Bydd y cynorthwywyr addysgu penodedig hefyd yn hyfforddi staff mewn ysgolion ar greu a rhedeg grwpiau iaith, lleferydd a chyfathrebu/ChATT ac ymyrraeth ymwybyddiaeth ffonolegol yn eu lleoliadau.

Bydd y swydd yma wedi'i lleoli yn 3 Spillman Street, ond bydd lefel uchel o gymorth ar draws ysgolion yn Sir Gaerfyrddin.

Dylai'r ymgeisydd delfrydol fod â phrofiad o weithio mewn amgylchedd tebyg. Rhaid iddi/iddo hefyd fod yn frwdfrydig iawn ac yn ddynamig yn ei hymagwedd eg/hi. Mae ymrwymiad cryf iawn i gefnogi disgyblion gydag anhenion iaith, lleferyyd a chyfathrebu yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Emma Griffiths ar egriffiths@sirgar.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: