MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Gymraeg Rhydaman, Lon yr Ysgol, Ammanford, Ammanford,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwylydd Amser Cinio - Ysgol Gymraeg Rhydaman

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

7.91 awr yr wythnos.

£12.05 yr awr.

Rydym yn chwilio am unigolyn i oruchwylio disgyblion yn ystod amser cinio, i oruchwylio'r disgyblion o fewn tir yr ysgol adeg chwarae amser cinoo ac i gynorthwyo gyda dyletswyddau cyffredinol yr ystafell fwyta, gan gynnwys gweini bwyd a diod, gosod, clirio a sychu byrddau.

Mae'r gallu i siarad trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i'r unigolyn llwyddiannus weithio am 1 awr a 35 munud bob dydd, yn ystod amser cinio yr ysgol.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Carys Gruffydd (Pennaeth) ar 01269 593081 / admin@rhydaman.ysgolccc.cymru

Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: